Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

First Cymru yn cadarnhau newidiadau i lwybrau bysiau X1 ac X3

Ar ôl i First Cymru gyhoeddi’n ddiweddar y bydd yn cyflwyno newidiadau ar draws ystod o wasanaethau bysiau yn ne a gorllewin Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn hysbysu trigolion lleol y bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau X1 ac X3.

Bydd y gwasanaeth X1 yn symud o amserlen bob hanner awr i amserlen fesul awr, a bydd y gwasanaeth X3 yn symud o wasanaeth bob awr i wasanaeth bob 90 munud. Bydd y newidiadau’n cael eu rhoi ar waith rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, a byddant yn dod i rym ar draws y ddau wasanaeth ddydd Sul 29 Hydref.

Mewn datganiad, dywedodd First Cymru mai'r gostyngiad yn swm y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer bysiau, a'r ffaith fod niferoedd teithwyr yn parhau’n is o lawer na lefelau blaenorol, oedd y rhesymau pam mae angen y newidiadau.

Dilynwyd cronfa Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau Llywodraeth Cymru, a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf, gan y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau, gwerth £46m. Mae’r gronfa hon ar waith ar hyn o bryd, a’i bwriad yw cefnogi darpariaeth bysiau hyd at 31 Mawrth 2024.

Dywedodd Doug Claringbold, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Mae’r mwyafrif o'r gwasanaethau’n parhau yn ôl yr arfer, ond er gwaethaf ein hymdrechion i ddiogelu ein cwsmeriaid rhag effaith y gostyngiad yn y cyllid, nid oes dewis gennym ond lleihau rhai gwasanaethau, neu roi'r gorau i'w gweithredu.

“Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd wrth newid y ffordd mae’n ariannu gwasanaethau bysiau. Ond ar y llaw arall, rydym yn rhannu siom ein cwsmeriaid wrth i hyn gael effaith ddilynol ar rai llwybrau.

“Rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o bobl i ddefnyddio’r bws, ac mae cyllid digonol yn hanfodol pan fo niferoedd teithwyr yn is na’r gost o weithredu gwasanaethau.”

Mae hon yn parhau i fod yn sefyllfa anodd iawn, yn enwedig pan nad yw’n ddichonadwy cynnal rhai llwybrau heb gymorthdaliadau trwm oherwydd y lefelau isel o deithwyr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i weithio ochr yn ochr â darparwyr a Llywodraeth Cymru i geisio dod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo teithio mewn bws fel opsiwn amgen i ddefnyddio car, ac rydym wedi ymrwymo i ymdrechion i ddatblygu system trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy a dichonadwy.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Mae manylion llawn y newidiadau a gyflwynwyd gan First Cymru ar gael yn www.firstbus.co.uk

Mae rhagor o fanylion am y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, www.gov.wales

Chwilio A i Y