Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ffair Cymorth Busnes yn lansio ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn bo hir

Mae busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu gwahodd i fynychu Ffair Cymorth Busnes a fydd yn cael ei chynnal fis nesaf.

Bydd y digwyddiad am ddim yn cael ei gynnal ddydd Iau 20 Gorffennaf, rhwng 4pm a 6pm yn y Neuadd Fowlio Dan Do, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH. Bydd hwn yn ddigwyddiad galw heibio am ddim, wedi’i anelu at fusnesau hen a newydd, yn cynnig arweiniad ar yr ystod eang o gefnogaeth mae’r llu o sefydliadau cymorth busnes yn ei chynnig.

Mae’r sefydliadau cymorth busnes a fydd yn mynychu’r ffair yn cynnwys Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, Busnes Cymru, Adran Gwaith a Phensiynau, Banc Datblygu Cymru, Gyrfa Cymru a nifer mwy.

Bydd busnesau hefyd yn gallu dysgu am gyfleoedd cyllid, gan gynnwys grantiau sydd ar gael.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol yn lansio nifer o gynlluniau grantiau newydd a fydd wedi’u cyllido gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a byddant yn cefnogi busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i arallgyfeirio, datgarboneiddio a thyfu.

Mae rhai o’r cynlluniau grantiau newydd yn cynnwys Grant Datblygu Busnes, Grant Dichonoldeb Busnes, Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr a Grantiau Arolygu Eiddo Gwag.

Mae’r digwyddiad am ddim i bob busnes, ac nid oes angen cofrestru.

Pleser llwyr yw cynnal ffair cymorth busnes arall ar gyfer busnesau ledled y fwrdeistref sirol.

Bydd y digwyddiad yn llawn cyfleoedd gwych i fusnesau fanteisio ar gymorth gan y cyngor a thu hwnt, drwy gyllid a chynlluniau eraill.

Rwy’n gobeithio y bydd y digwyddiad o fudd i fusnesau ledled y fwrdeistref sirol, a’u bod yn gallu manteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Am ragor o wybodaeth am y ffair cymorth busnes ar y gweill, anfonwch e-bost at business@bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y