Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ei Fawrhydi’r Brenin Charles yn rhoi croeso cynnes i bedwar disgybl o Faesteg!

Ar 17 Mai, cyrhaeddodd pedwar disgybl o Ysgol Maesteg ym Mhalas Buckingham i gwrdd â’i Fawrhydi’r Brenin Charles, er mwyn cydnabod eu llwyddiant o ennill Gwobr Effaith Gymunedol Ymddiriedolaeth y Tywysog.  

Mae’r wobr yn anrhydeddu pobl ifanc sydd wedi arddangos twf personol sylweddol ac sydd wedi goresgyn rhwystrau er mwyn gwella eu dyfodol drwy raglen addysg Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Roedd y digwyddiad, a oedd yn llawn sêr, yn dathlu enillwyr cenedlaethol a rhyngwladol Gwobrau Ymddiriedolaeth y Tywysog, TK Maxx a Homesense, ac roedd yn amlygu ymdrechion y bobl ifanc a’u cyd-ddisgyblion.  Fel rhan o raglen Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog, roedd y grŵp wedi sefydlu prosiect cynaliadwy - yn ailgylchu ac yn pecynnu dillad ysgol y gellir eu dychwelyd i’r gymuned am ddim.

Aeth y grŵp ati i olchi, smwddio, plygu a phecynnu dros 50 darn o wisg ysgol ac ail-becynnu’r eitemau nad oedd wedi’u hawlio, er mwyn i deuluoedd mewn angen eu casglu fel rhan o siop gyfnewid gwisg ysgol.

Dysgodd y disgyblion sut i weithio fel tîm drwy’r prosiect gan ddefnyddio gwahanol ‘orsafoedd’, ac os oedd un dysgwr yn ei chael hi’n anodd, roedd disgybl arall bob amser yn barod i gamu i’r adwy a chynnig help llaw.

Dywedodd Jack, aelod o’r tîm: “Mae’r prosiect wedi dangos bod modd inni gydweithio i helpu eraill yn ein cymuned. Mae ennill Gwobr Ymddiriedolaeth y Tywysog yn wych! Mae wedi rhoi hwb i’n hyder ac wedi ein hannog i ystyried datblygu syniadau newydd ar gyfer ein cymuned.”

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn rhoi’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen ar bobl ifanc i ffynnu mewn bywyd.

Mae tri o bob pedwar person ifanc sy’n cael cymorth Ymddiriedolaeth y Tywysog ledled y byd yn mynd yn eu blaenau i’r byd gwaith, hyfforddiant neu addysg. Mae TK Maxx a Homesense wedi bod yn bartneriaid i Ymddiriedolaeth y Tywysog ers 2013.

Cafodd disgyblion Ysgol Maesteg eu cyflwyno i’w Fawrhydi, sef sylfaenydd Ymddiriedolaeth y Tywysog, gan y chwaraewr pêl-fasged, Ovie Soko, a’r cerddor, Bugzy Malone.

Dywedodd Ovie Soko: “Mae Ethan, Jake, Jack, Ryan a’u cyd-ddisgyblion yn Ysgol Maesteg yn hynod haeddiannol o’r wobr hon.  Mae eu syniad o helpu eu cyd-ddisgyblion a'r gymuned ehangach drwy ail-gylchu gwisgoedd ysgol yn hynod ddyfeisgar. Maent wedi dangos, fel tîm, bod eu gwaith caled a’u dychymyg yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Mae eu prosiect wedi’u galluogi i fagu hyder, a gwella eu sgiliau tîm a sgiliau bywyd. Rwy’n siŵr bod eu teuluoedd a chymuned yr ysgol yn falch iawn o’u cyflawniad; rwyf i’n sicr yn falch. Maent yn ysbrydoliaeth go iawn!"

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Ysgol Maesteg: “Rydym wedi ein calonogi gan lwyddiant Ethan, Jack, Jake, Ryan a Seren o ennill y wobr hon.

 “Rwy’n hynod falch o'r grŵp anhygoel hwn o bobl ifanc, sydd wedi sefydlu’r Siop Gyfnewid Gwisg Ysgol, lle maent wedi cynnig gwisg ysgol wedi'i hailgylchu er mwyn helpu â fforddiadwyedd a chefnogi’r gymuned yn ystod y cyfnod heriol hwn. 

Mae eu gwytnwch a’u natur benderfynol wedi arwain at lwyddiant aruthrol y prosiect hwn, ac wedi ennill teitl Enillwyr Gwobr Effaith Gymunedol Ymddiriedolaeth y Tywysog iddynt, sy’n wobr haeddiannol iawn i’r bobl ifanc arbennig hyn.                                                                                                            

“Dylent fod yn falch o’u cyflawniadau, ac am roi Ysgol Maesteg ar y map! Rhaid inni gydnabod staff ein hysgol, sy’n parhau i fynd y tu hwnt i’r gofyn o ran eu hamser a’u cymorth er budd ein myfyrwyr. Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith.”

Rwyf eisiau manteisio ar y cyfle i longyfarch y disgyblion rhyfeddol hyn sydd, gyda chymorth staff Ysgol Maesteg ac Ymddiriedolaeth y Tywysog, yn datblygu sgiliau newydd a fydd yn eu rhoi ar ben ffordd wrth iddynt symud ymlaen yn eu bywydau.

Da iawn! Rydym yn falch iawn o bopeth rydych wedi’i gyflawni, ac yn parhau i'w gyflawni.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y