Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ehangu'r ddarpariaeth gofal plant yn raddol ar gyfer plant dwy oed ledled Pen-y-bont ar Ogwr

Mae cyllid Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cyflwyniad graddol o ddarpariaeth Dechrau’n Deg ledled y fwrdeistref sirol.

Mae ardaloedd allweddol o fewn y fwrdeistref sirol wedi'u targedu yn ôl angen, gydag ardaloedd yn y Pîl, Mynydd Cynffig a Maesteg yn elwa o gam cyntaf y fenter. 

Mae ail gam y rhaglen ehangu bellach yn mynd rhagddo, gyda phlant dwy oed cymwys yn cael darpariaeth gofal plant wedi'i ariannu mewn ardaloedd gan gynnwys Blaengarw, Pontycymer, Nantyffyllon a rhannau o Ynysawdre.  Bwriedir cyflwyno’r ddarpariaeth mewn ardaloedd ychwanegol, gan gynnwys Cwm Ogwr, ym mis Medi 2023.

Mae cyllid wedi’i nodi ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys addasu dosbarthiadau, adfywio adeiladau, yn ogystal â chodi adeiladau newydd - a hynny oll yn cefnogi’r cynllun ehangu gofal plant.

Rydym mor ddiolchgar am y cyllid sylweddol mae Llywodraeth Cymru wedi’i gynnig i gefnogi’r gwaith mawr ei angen o ehangu’r ddarpariaeth gofal plant ledled y fwrdeistref sirol.

Bydd y fenter yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd o fewn ein cymunedau. Mae’r fenter yn gynllun hirdymor a fydd yn cael ei reoli’n ofalus.

Mae cyfathrebu’n allweddol i alluogi'r gweithrediad i redeg yn esmwyth. O fewn yr ardaloedd datblygu a nodwyd, mae teuluoedd cymwys ar gyfer y ddarpariaeth i gyd wedi cael eu hysbysu drwy lythyr.

Mae darparwyr gofal plant mewn ardaloedd wedi’u nodi ar gyfer ehangu hefyd wedi cael gwybod am y cynlluniau arfaethedig.

Gobeithiwn y bydd nifer o leoliadau wedi agor erbyn diwedd y flwyddyn, ac rydym yn disgwyl am arweiniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chwblhau’r cyflwyniad.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Chwilio A i Y