Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ehangu gwasanaethau Canolfan Ieuenctid er mwyn darparu mannau diogel pellach ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Tîm Cymorth Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ehangu ei gynnig o fannau diogel i bobl ifanc o fewn y gymuned leol.

Bydd y cyllid ychwanegol gan y cyngor yn darparu hyd yn oed mwy o ddarpariaeth yn y canolfannau presennol yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen, Ysgol Gyfun Cynffig a Chanolfan Ymgysylltiad Ieuenctid Pencoed, wrth helpu hefyd i sefydlu dwy ganolfan newydd ym Mryntirion/Cefn Glas a Bracla.

Amseroedd agor y ddwy ganolfan newydd yw:

  • Bryntirion a Chanolfan Ieuenctid Cefn Glas - Dydd Llun (7.30pm i 9pm) yn 3rd Scouts Hall, Bryntirion, CF314JU, a;
  • Chanolfan Ieuenctid Bracla - Dydd Gwener (6.30pm i 8.30pm) yng Nghanolfan Gymunedol Bracla, CF312PQ.

Bydd ehangu darpariaeth canolfan ieuenctid yn caniatáu i ni fel cyngor ddarparu hyd yn oed mwy o ffyrdd i bobl ifanc gymdeithasu â’u cyfoedion mewn mannau diogel.

Mae’n bwysig iawn bod pobl yn cael cyfleoedd i gael profiadau newydd ac i feithrin perthnasoedd cadarnhaol o fewn eu cymunedau.

Mae canolfannau ieuenctid yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi pobl ifanc a hoffwn ddiolch i'r tîm am ddod o hyd i fannau mewn lleoliadau priodol.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael i bobl ifanc o fewn Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan y cyngor neu cysylltwch â’r tîm drwy youthsupport@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y