Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ehangu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg fesul cam yn parhau ar draws y fwrdeistref sirol

Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno darpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg fesul cam ar draws y fwrdeistref sirol, gydag ardaloedd cod post ychwanegol yng Nghefn Cribwr, Corneli a Mynydd Cynffig yn elwa o’r fenter ym mis Ionawr 2024.

Mae’r ardaloedd cod post ychwanegol hyn wedi’u cynnwys yn ail gam y cynllun, er mwyn sicrhau bod y nifer targed o blant a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn golygu y bydd pob plentyn dwy i dair oed sy’n byw yng Nghefn Cribwr, y Pîl, Corneli a Mynydd Cynffig yn gymwys ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant a ariennir gan Dechrau’n Deg o fis Ionawr 2024.

Mae Emily Huntley, rhiant sy’n gymwys ar gyfer yr ehangiad diweddar Dechrau’n Deg yng Ngogledd Corneli, yn amlygu sut mae’r ddarpariaeth wedi bod o fudd i’w theulu. Dywedodd hi:

Mae’n wych cael fy nghynnwys o’r diwedd yn yr ehangiad cod post Dechrau’n Deg – mae wedi helpu’n aruthrol gyda gofal plant, gan fy ngalluogi i weithio’n llawn amser.

“Mae fy mhlentyn bellach yn gallu cael gwneud defnydd o leoliad o ansawdd uchel yng Nghylch Chwarae Gogledd Corneli, a fydd o fudd yn sicr i’w datblygiad y ei blynyddoedd cynnar. Mae'n hyfryd bod yr ehangiad yn ehangu i ganiatáu i fwy o deuluoedd fod mor ffodus â ni.

Mae hyn yn newyddion gwych i deuluoedd sy’n byw yn y cymunedau hynny. Mae’r ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg a ariennir yn gymorth gwych i rieni a phlant, gan gynnig gwasanaeth ymwelwyr iechyd dwys, cymorth ar gyfer datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu a mwy.

Mae presenoldeb rheolaidd mewn lleoliadau gofal plant o ansawdd uchel wedi dangos bod canlyniadau i blant yn gwella’n sylweddol. Mae ymchwil yn dangos y bydd cynyddu'r buddsoddiad ym mlynyddoedd cynnar plant yn cael gwell effaith ar eu hiechyd a'u canlyniadau addysgiadol yn y tymor byr ac yn gwella eu sgiliau bywyd yn y tymor hwy.

Mae tystiolaeth yn dangos sut mae Dechrau’n Deg yn cael effaith sylweddol, gadarnhaol ar blant – pan fyddant yn mynd i’r ysgol, maent yn barod i ddysgu ac yn fwy hyderus wrth gymdeithasu â phlant eraill. Mae’r cynllun wedi arwain at gymorth cynharach i deuluoedd, tra bod cyswllt ag ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill Dechrau’n Deg wedi arwain at rieni yn bod yn fwy gwybodus ac yn fwy hyderus.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Mae cofrestru ar gyfer darpariaeth Dechrau'n Deg yn yr ardaloedd cod post ychwanegol yng Nghefn Cribwr, Corneli a Mynydd Cynffig bellach ar agor.

Gall rhieni anfon e-bost at flyingstartexpansion@bridgend.gov.uk i gofrestru.

Chwilio A i Y