Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dymchwel cyn orsaf heddlu bron â’i gwblhau

 

Mae cynlluniau i ail-leoli Coleg Pen-y-bont ar Ogwr nghanol y dref wedi symud yn ei flaen yn sylweddol gyda dymchwel yr hen orsaf heddlu bron â’i gwblhau.

Mae’r contractwyr dymchwel wrthi’n cyrraedd camau olaf y gwaith, sydd i fod i’w gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae’r safle yn Cheapside yn ffurfio rhan allweddol o gynlluniau adfywio’r cyngor ar gyfer canol y dref ac yn cynrychioli gwerth £60 miliwn o fuddsoddiad i sgiliau a hyfforddiant y bobl ifanc ac aelodau’r gymuned sydd angen cyfleoedd i ail-hyfforddi ac ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. 

Mae’r coleg yn bwriadu creu adeilad carbon sero net, gyda chyfleusterau dysgu ac addysgu 21ain ganrif ar gyfer addysg bellach ac uwch ôl-16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda buddion cymunedol yn cynnwys theatr 200 sedd, siop goffi a mannau cyfarfod hyblyg.


Bydd y buddsoddiad, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn gweld y safle ar brydles i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, fel ei fod yn cael ei ail-leoli o’r safle presennol ar Heol y Bont-faen.

Mae dymchwel yr hen orsaf heddlu’n cynrychioli carreg filltir allweddol yn ein cynllun meistr canol y dref ac mae’n braf gweld y cynnydd parhaus yn y cynlluniau i ail-leoli’r Coleg.

Bydd y campws newydd yn chwarae rhan allweddol yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref wrth i fyfyrwyr ymweld yn ystod eu hamser cinio neu cyn ac ar ôl eu hastudiaethau. Bydd hyn yn darparu marchnad newydd ac amrywiol i nifer o’n busnesau canol y dref gael manteisio arnynt.

Bydd yr adeilad newydd yn gyfeillgar i'r amgylchedd hefyd a bydd yn cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf fydd yn dod â buddion i’r fwrdeistref sirol gyfan.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Rhys Goode:

Chwilio A i Y