Dyfarnu cyllid i gefnogi'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb
Poster information
Posted on: Dydd Iau 19 Mai 2022
Mae cyllid wedi’i ddyfarnu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb.
Mae dros £1.1m wedi’i ddyfarnu i’r awdurdod lleol, a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu offer newydd, uwchraddio offer presennol, uwchraddio cyfleusterau bwyta/ceginau presennol, a gwaith i gynyddu capasiti seilwaith prydau ysgol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi £25m i ysgolion ledled y wlad fel rhan o gynlluniau i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd.
Mae’r polisi’n rhan o’r Cytundeb Cydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld y cynnig prydau ysgol am ddim yn cael ei ymestyn i holl ddisgyblion ysgolion cynradd dros y tair blynedd nesaf.
O fis Medi ymlaen, bydd rhai o blant ieuengaf ysgolion cynradd yn dechrau cael prydau ysgol am ddim, gan fod y polisi’n cael ei gyflwyno'n raddol.
Wrth weithio ag ysgolion ac awdurdodau lleol, bydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio ac yn paratoi'r seilwaith sydd ei angen i holl ddisgyblion oed cynradd gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Medi 2024.
Gyda'n gilydd, rydym wedi gwneud ymrwymiad ar y cyd na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fod yn llwglyd, a bydd pob plentyn yn ein hysgolion cynradd yn cael pryd ysgol am ddim.
Rydym yn wynebu argyfwng costau byw heb ei debyg. Gwyddom fod plant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, a dyna pam mai ein dysgwyr ieuengaf fydd y cyntaf i elwa o’r cynllun.
Mae teuluoedd o bob cwr o Gymru’n profi effeithiau’r argyfwng costau byw, ac mae ymestyn prydau ysgol am ddim yn un o sawl mesur rydym yn ei gymryd i gefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod heriol hwn.
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford