Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dwy ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyrraedd rownd derfynol Her STEM Formula 1 y DU!

Yn ddiweddar, mae disgyblion o Ysgol Gynradd Afon y Felin ac Ysgol Cynwyd Sant wedi gwneud eu ffordd i rownd derfynol Her STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) Formula 1, a gynhelir yn Rotherham ar 12 Mawrth.

Yn annog sgiliau traws-gwricwlaidd, mae prosiect peirianneg STEM Formula One (F1) yn seiliedig ar adeiladu ac addasu car model F1.  Dywedodd arweinydd y prosiect yn Ysgol Gynradd y Felin, Andrew Brown: “Bu hwn yn brofiad STEM cynhwysol, bendigedig ac mae wedi cyfoethogi fy mhrofiad addysgu fel athro newydd gymhwyso.  Bu’n brosiect perffaith hefyd i ddatblygu dyheadau’r plant.” 

Hwn oedd y tro cyntaf i Afon y Felin gymryd rhan yn y gystadleuaeth a chafodd yr ysgol ei chanmol gan y trefnwyr am ei chynhwysiant.  Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ysgolion, a anfonodd grŵp ffocws yn unig, aeth Afon y Felin â chriw cyfan Cam Cynnydd 3, gan gynnwys pum grŵp gallu cymysg.

Dywedodd y Pennaeth, Denise Jones: "Rydym yn hynod o falch o lwyddiant ein hysgol!  Rydym wastad wedi canolbwyntio ar ddysgu uchelgeisiol i’n plant, ac maent wedi dangos bod eu penderfynoldeb a’u huchelgais i gyflawni rhagoriaeth wedi arwain at lwyddiant!  Mae cymuned ein hysgol yn sicr wedi cyflawni ymdeimlad enfawr o falchder yn sgil y digwyddiad hwn ac roedd y trefnwyr F1 in Schools wrth eu bodd ein bod wedi gallu dangos mor gynhwysol yw’r prosiect hwn.

“Mae’r gwaith hwn wirioneddol wedi cipio diddordeb y plant, a gwella eu huchelgeisiau, gyda llawer ohonynt nawr yn dangos diddordeb mewn gyrfaoedd STEM. Bu’n llwyddiant aruthrol i ni fel ysgol.”

Yn dilyn llwyddiant diweddar y ddwy ysgol yn Rownd Derfynol Rhanbarthol De Cymru, a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru, dymunwn y gorau iddynt yn rownd derfynol y DU yn Rotherham yr wythnos hon.

Gwych yw gweld, drwy helpu’r plant i ddylunio ac adeiladu car, mae'n bosib hefyd magu eu hunan hyder, gan eu hannog i fynd amdani a’u haddysgu y gallant wneud unrhyw beth y dymunant ei wneud os ydynt yn gweithio’n galed. Da iawn i bawb ynghlwm! Unwaith eto, pob lwc!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y