Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dweud eich dweud am gynigion cyllideb y cyngor ar gyfer 2024 i 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS), ynghyd â’i gyllideb arfaethedig a nifer o gynigion ar gyfer darparu gwasanaethau yn 2024/25.

Heddiw (15 Ionawr), mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau a bydd yn para tan 4 Chwefror 2024, gyda’r nod o gasglu cynifer o safbwyntiau cyhoeddus â phosibl gan bobl ar draws y fwrdeistref sirol i helpu i siapio penderfyniadau cyllidebol pwysig.

Fel y gwyddoch, mae’r cyngor yn wynebu’r pwysau ariannol anoddaf y bu’n rhaid iddo ymdopi â nhw erioed. Mae ein ffigur setliad gan Lywodraeth Cymru yn cynrychioli cynnydd o £7.4m mewn cyllid yn erbyn pwysau cyllideb hysbys o £28m.

Yn debyg i’r pwysau presennol ar aelwydydd o ran costau byw, rydym yn delio â chostau cynyddol nwyddau, gwasanaethau, ynni a thrafnidiaeth ynghyd â thwf yn y galw am wasanaethau rheng flaen hanfodol a darparu cymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Nid oes gan y cyngor ddewis ond cymryd camau brys os yw am gyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu cyllideb wedi’i mantoli’n llawn y flwyddyn ariannol hon, ac mae angen inni ddod o hyd i £16m o doriadau yn y gyllideb.

Dyma pam rydyn ni’n cynnig pontio’r bwlch yn y gyllideb drwy gymysgedd o arbedion effeithlonrwydd mewnol, lleihau neu newid y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu, cynyddu ffioedd a thaliadau, a chodi’r dreth gyngor.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Huw David

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Hywel Williams: “Rydym yn gofyn am eich barn ar ein cynigion cyllideb sy’n cynnwys arbedion cost posibl a chynhyrchu incwm rhwng 2024 a 2025.

“Rydyn ni eisiau clywed eich barn am lefel arfaethedig y dreth gyngor, eich barn am ein cynlluniau gwario a dull y cyngor o fantoli’r gyllideb.

“Bydd eich ymatebion yn helpu i lywio’r cynigion terfynol a fydd yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod llawn o’r cyngor ar gyfer penderfyniad ym mis Chwefror 2024.”

I leisio eich barn am gyllideb y cyngor 2024-25, ac i gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n gwario ein cyllideb, ewch i: www.bridgend.gov.uk. Mae’r arolwg yn cau ddydd Sul 4 Chwefror 2024.

Llenwch yr arolwg ar-lein, neu i ofyn am gopi caled o’r arolwg, anfonwch e-bost at consultation@bridgend.gov.uk, ffoniwch 01656 643664.

Gallwch hefyd ysgrifennu at y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y