Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dosbarth 2023 yn dathlu canlyniadau Safon Uwch ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae myfyrwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhagori yn eu canlyniadau Safon Uwch eto eleni, ac mae ysgolion yn dathlu gwaith caled staff a disgyblion.

Mae nifer o gyflawniadau a llwyddiannau unigol wedi bod, gyda nifer o ddisgyblion yn cael eu derbyn i'w prifysgol dewis cyntaf ac eraill yn dechrau ar eu taith yn y byd gwaith, yn dechrau ar brentisiaeth neu'n parhau â'u hastudiaethau yn y coleg.

Dywedodd Mike Stephens, Pennaeth Ysgol Gyfun Porthcawl: “Rwy’n falch iawn o weld pobl ifanc ein cymuned yn cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled. Mawr yw ein dyled i’n hathrawon sydd wedi gweithio mor galed eto eleni, ac mae ein canlyniadau wir yn adlewyrchu’r berthynas effeithiol rhwng yr ysgol, ei dysgwyr a'r cymorth gartref.”

Yn y cyfamser, ychwanegodd Ashley Howells, Pennaeth Ysgol Archesgob McGrath: “Rhaid canu clodydd y disgyblion, ond mae hefyd yn gyfnod i gydnabod a dathlu’r cymorth wedi’i gynnig gan deuluoedd yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf o addysg.

“Amharodd Covid ar fywyd ysgol yn sylweddol yn 2020, ac mae’r garfan hon wedi gorfod goresgyn sawl rhwystr. Yn ffodus, mae gennym dîm o staff arbennig sy’n sicrhau bod ein disgyblion yn cael cymorth academaidd a bugeiliol o’r radd flaenaf.”

Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion ar eu llwyddiannau yn ogystal â diolch i'r athrawon, staff cymorth, llywodraethwyr a rhieni am eu cymorth a'r ymroddiad maent wedi'i ddangos.

I'r rheiny ohonoch na chawsoch y graddau roeddech chi'n eu disgwyl heddiw, peidiwch â phoeni, mae digon o gyfleoedd eraill ar gael i chi, ac rwy’n annog disgyblion i geisio cyngor gan eu hysgolion a Gyrfa Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg:

Cynghorir unrhyw ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol, neu na chawsant y canlyniadau roeddent yn gobeithio eu cael, i wneud y canlynol:

  • Siaradwch â'ch ysgol a all gynnig cyngor a chymorth i chi ynghylch pa opsiynau sydd ar gael i chi.
  • Ewch i wefan Gyrfa Cymru, lle mae digon o adnoddau ar gael i'ch helpu chi.
  • Cymerwch gipolwg ar rai o'r swyddi gwag presennol ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Ystyriwch brentisiaeth, lle allwch weithio ochr yn ochr â phobl broffesiynol yn y diwydiant, ennill cyflog a datblygu eich sgiliau – ewch i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.

Chwilio A i Y