Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgyblion Ysgol Mynydd Cynffig yn lleisio eu barn ar gynlluniau ar gyfer ysgol newydd

Ym mis Mehefin 2022, cymeradwywyd cynlluniau i ymestyn a moderneiddio Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Fel rhan o'r prosiect gwerth £12.8m, a ariennir gan y cyngor a Llywodraeth Cymru, ni fyddai safleoedd gwahanol i’r ysgol mwyach. Byddai safle adran y babanod a safle’r adran iau yn cyfuno ac yn cael eu symud i ysgol gynradd newydd sbon ar safle presennol adran iau Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn Stryd Pwllygath, Bryn Cynffig, o fis Medi 2025 ymlaen.

Bydd modd i'r ysgol newydd ddarparu lle i 420 o ddisgyblion yn ogystal â 75 o blant meithrin, gan ddylanwadu'n fwy cadarnhaol ar ddarpariaeth a safonau addysgol yn ogystal â darparu gofod addas sy'n bodloni anghenion staff a dysgwyr yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig. 

Bydd yr adeilad newydd a'r mannau allanol yn darparu mynediad at weithgareddau allgyrsiol hefyd.

Cynhaliwyd sesiwn ymgysylltu yn yr ysgol ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2023, ar gyfer disgyblion Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6, lle dangoswyd animeiddiad rhithwir o safle'r ysgol a'r adeilad i'r plant, yn ogystal â delwedd gyfrifiadurol tri-dimensiwn. 

Galluogodd y delweddau i'r plant ddychmygu sut edrychiad ac ymdeimlad a fydd i'r datblygiad wedi iddo gael ei adeiladu. Roedd y disgyblion a'r staff yn llawn cynnwrf wrth weld y cynlluniau ac roedd ganddynt lu o gwestiynau i'w gofyn a syniadau i'w rhannu.

Mae'r sesiwn wedi bod yn hynod o gyffrous a diddorol, gyda'r staff a'r disgyblion yn cael dweud eu dweud ar gynlluniau eu hysgol newydd.

Mae pawb wedi bod yn frwdfrydig iawn, ac fe lwyddodd yr animeiddiad rhithwir i roi bywyd i’r cynlluniau arfaethedig.

Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i rannu eu sylwadau a'u syniadau ac i gymryd rhan yn natblygiad yr ysgol o'r dechrau i'r diwedd. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'r ysgol, gan drefnu digwyddiadau pellach yn y tymor ysgol newydd ym mis Medi 2023.

Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Disgwylir i'r broses ymgynghori cyn-gynllunio ar gyfer y datblygiad newydd ddechrau ym mis Awst 2023.

Disgyblion Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn llawn cynnwrf yn sgil y cynlluniau newydd.
Delwedd gyfrifiadurol o sut edrychiad fydd i’r ysgol, yn amodol ar y broses ymgynghori cynllunio ffurfiol.

Chwilio A i Y