Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgyblion TGAU yn dathlu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae disgyblion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu eu canlyniadau TGAU heddiw (dydd Iau 25 Awst 2022).

Ni fu astudio drwy gydol y pandemig yn hawdd i ddysgwyr, gyda nifer o fyfyrwyr yn gorfod addasu i wahanol ddulliau o ddysgu a gweithdrefnau arholi.

Mae llawer o ddisgyblion wedi cyflawni graddau gwych mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol heddiw, gyda nifer wedi dewis parhau eu haddysg yn y chweched dosbarth neu’r coleg, ac eraill yn hytrach wedi dewis dechrau prentisiaeth neu fentro i’r byd gwaith.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell: “Hoffwn longyfarch disgyblion ar eu gwaith caled yn arwain at y diwrnod canlyniadau TGAU heddiw. Mae’n dda gweld cymaint o fyfyrwyr yn cyflawni canlyniadau gwych ar ôl dwy flynedd gythryblus o ddysg.

Diolch o galon i’r staff addysgu a chymorth am ymroddi eu hunain i sicrhau bod pobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol wedi cael eu paratoi am lwyddiant.”

Dymunaf bob lwc ar gyfer y dyfodol i’r holl bobl ifanc sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, p’un a ydynt yn dewis symud ymlaen i’r chweched dosbarth, y Coleg, hyfforddiant, prentisiaethau, neu gyflogaeth.

Gwelsom ganlyniadau arbennig iawn yn dod o ysgolion lleol ledled y fwrdeistref sirol a does dim amheuaeth gen i y bydd dosbarth 2022 yn llwyddiannus yn yr hyn a wnânt yn y dyfodol.

Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David

Os nad ydych chi wedi llwyddo i gael y canlyniadau roeddech yn gobeithio eu cael a’ch bod yn ansicr ynghylch y dyfodol, peidiwch â gofidio, mae digonedd o opsiynau ar gael:

  • Siaradwch â'ch ysgol a all gynnig cyngor a chymorth i chi ynghylch pa opsiynau sydd ar gael i chi.
  • Ewch i wefan Gyrfa Cymru, lle mae digon o adnoddau ar gael i'ch helpu chi.
  • Ystyriwch brentisiaeth lle gallwch weithio ochr yn ochr â phobl broffesiynol yn y diwydiant, ennill cyflog a datblygu eich sgiliau – ewch i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.

Chwilio A i Y