Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgyblion Porthcawl yn arwain y ffordd i rownd derfynol dadlau Caergrawnt!

Heb unrhyw brofiad blaenorol o gystadleuaeth siarad cyhoeddus, llywiodd pedwar o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Porthcawl eu ffordd drwy diriogaeth newydd yr holl ffordd i’r rownd derfynol cystadleuaeth siarad cyhoeddus. 

Yn y 12 olaf allan o 425 o ysgolion, roedd y disgyblion nid yn unig yn cynrychioli’r unig ysgol Gymraeg, ond hefyd yr unig ysgol gyfun yn y rownd derfynol genedlaethol, a gynhaliwyd yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt.  Cawsant eu hunain o flaen ystod o feirniaid, yn cynnwys  gor ŵyr Winston Churchill, Randolch Churchill!

Dywedodd Ella, un o dîm Porthcawl: “Roedd bod yn rhan o rywbeth oedd yn teimlo tu hwnt i’n cyrraedd yn anhygoel, ond eto fe lwyddwyd i wneud yn dda a mynd yn bell.”

Ychwanegodd Wil, oedd yn cytuno â’i sylwadau: “Roedd y profiad cyfan mor wahanol, yn wahanol i unrhyw beth roeddem wedi ei wneud o’r blaen. Cawsom groeso cynnes ac roeddem yn cael ein gwerthfawrogi. Roedd yn gyfle anhygoel i ddysgu i bob un ohonom.”

Roedd sawl cam i’r Gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus ESU, yn cynnwys y Rownd Derfynol Ranbarthol yn Stanwell, lle enillodd Ella’r Holwr Gorau a Wil y Cadeirydd Gorau.  Roedd dod yn fuddugol yn y Rownd Derfynol Ranbarthol yn golygu eu bod yn ennill Tarian Morgan, yn ogystal â llwybr i’r ‘Rowndiau Terfynol’ yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt. 

Yn ail gam y gystadleuaeth, a gynhaliwyd yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd, gofynnwyd i Romy, aelod arall o’r tîm, wneud cais am ysgoloriaeth i fynychu gweithgaredd haf dadlau’r flwyddyn nesaf.  Dywedodd bod y daith: ““Yn brofiad anhygoel!  Rwyf wedi dysgu cymaint - roedd yn gyfle gwych!” 

Ychwanegodd Tammy, disgybl arall o Borthcawl: “Roedd yr awyrgylch yn ddirdynnol. Roedd mor braf gweld cymaint o bobl ifanc o’r un anian yn dod ynghyd i ddilyn diddordeb cyffredin.” 

Ar ddiwedd y gystadleuaeth cyrhaeddodd y tîm y chwech olaf.  Dywedodd eu hathrawes, Rhaea Mahoney, Pennaeth y Gyfadran Saesneg a’r Cyfryngau yn yr ysgol: “Mae’r hyn mae ein disgyblion wedi ei gyflawni yn ystod eu cystadleuaeth siarad cyhoeddus gyntaf yn ddim llai nag anhygoel.  

“Faint o bobl ifanc 16 oed o ysgol gyfun Gymraeg sy’n gallu dweud eu bod wedi cymryd rhan mewn dadl ddeallusol ar lwyfan ym Mhrifysgol Caergrawnt? 

“Mae datgan fy mod yn falch ohonynt yn ddweud cynnil.   Rwy’n ddiolchgar iawn i’r ysgol am gefnogi eu cais a’u llwyddiant yn ystod y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus ESU.  Am brofiad gwych a gafodd pob un ohonom!” 

Dywedodd Mike Stephens, pennaeth yr ysgol: “Rydym yn hynod falch o’r hyn mae ein disgyblion wedi ei gyflawni yn y gystadleuaeth genedlaethol hon.  Rydym yn dweud wrth ein myfyrwyr yn aml i wneud y gorau o’u ‘Dysgu, Sgiliau a Phrofiadau’, ac mae eu llwyddiant wedi eu galluogi i ddatblygu eu gwybodaeth, eu lefel uchel o sgiliau cyfathrebu a chryfhau eu profiadau.  Rydym yn ymfalchïo yn ein hystod eang o brofiadau allgyrsiol yn Ysgol Gyfun Porthcawl ac yn edrych ymlaen at lwyddiant siarad cyhoeddus yn y dyfodol.”  

Am gyflawniad arbennig! Mae bod yr unig dîm yn cynrychioli ysgol Gymraeg, yn ogystal â bod yr unig ysgol gyfun yn rownd derfynol Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus ESU yn gyflawniad anhygoel - mae pob un ohonom yn falch dros ben o dîm Ysgol Gyfun Porthcawl!

Rwy’n sicr y bydd hwn yn brofiad fydd yn aros yng nghof y disgyblion am byth! Diolch i’r athrawon sydd wedi annog a chefnogi’r dysgwyr i ddatblygu yn y ffordd hon.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y