Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgyblion Pencoed yn ennill cystadleuaeth genedlaethol y gyfraith!

Brwydrodd tri disgybl o Ysgol Gyfun a Chanolfan Chweched Dosbarth Pencoed trwy sawl cylch yng nghystadleuaeth genedlaethol y gyfraith  - y gyntaf o’i math yng Nghymru - gan lwyddo i gipio’r safle buddugol yn y rownd derfynol. 

Trefnwyd y gystadleuaeth, neu’r ‘Ymryson’, a osodwyd  o fewn senario llys barn, ar gyfer dysgwyr Academi Seren, gyda phob tîm yn gyfrifol am gyflwyno achos i’w gynrychioli.  Cyflwynodd y dysgwyr ddadleuon cyfreithiol, wedi’u seilio ar senario a roddwyd iddynt rai wythnosau ymlaen llaw, o flaen y barnwyr i amddiffyn eu cleient.  Roedd y ‘beirniaid’ yn cynnwys israddedigion a graddedigion yn y gyfraith, yn ogystal â chyfreithwyr a bargyfreithwyr.

Mewn cystadleuaeth yn erbyn ysgolion ledled Cymru, llwyddodd disgyblion Pencoed i gyrraedd y rownd derfynol gan gystadlu yn erbyn disgyblion St. John’s College, ysgol gydaddysgol annibynnol yng Nghaerdydd.

Dyfarnwyd y teitl ‘Yr Areithiwr Gorau’ yn y rownd derfynol i Roan, disgybl Blwyddyn 13 yn yr ysgol, gwobr sydd wedi’i alluogi ef i dreulio wythnos o interniaeth gyda chwmni cyfreithiol o fri yn Abertawe.

Dywedodd Roan: “Mae cael y profiad o ffug achos llys yn allweddol bwysig i unrhyw un sy’n ystyried dilyn gyrfa mewn eirioli ac edrychir ar hyn yn ffafriol gan y Bar yn Lloegr a Chymru, heb sôn am gannoedd o siamberi bargyfreithwyr ledled y wlad.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i Jacob Mills [prif drefnydd] a’r holl drefnwyr eraill a lwyddodd i wireddu’r gystadleuaeth hon...Roedd yn brofiad difyr a braint oedd cael cynrychioli Chweched Dosbarth Penybont/Pencoed, ac mae ein llwyddiant ni yn dyst i’r ymdeimlad cryf o’r cydweithredu a amlygwyd gennym wrth orchfygu ein gwrthwynebwyr trwy gydol y gystadleuaeth.”

Dywedodd Edward Jones, y Prifathro: “Fel ysgol rydym wirioneddol wedi mwynhau cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Ymryson Gymreig gyntaf ar gyfer disgyblion Chweched Dosbarth.  Roedd y safon yn eithriadol o uchel, ac roedd y gwaith paratoi a oedd yn ofynnol ar gyfer pob achos, trwy gydol y gystadleuaeth, yn hynod o heriol.

“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi dod yn fuddugol, wedi mwynhau cael bod yn rhan o’r rownd derfynol, ac yn edrych ymlaen yn arw i warchod ein teitl ar gyfer y flwyddyn nesaf.”

Roedd hwn yn gyfle ac yn orchest eithriadol! Cafodd ein disgyblion gyfle unigryw i gymryd rhan mewn gweithgaredd sydd fel arfer ar gael i fyfyrwyr prifysgol yn unig, gan lwyddo i ymateb i’r her!

Felly, llongyfarchiadau mawr i Roan, Megan a Lauren! Rydym yn hynod falch ohonoch!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y