Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgwyl i'r Bencampwriaeth Agored Hŷn roi hwb i'r economi ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae dychweliad y Bencampwriaeth Agored Hŷn i Borthcawl yn prysur agosáu (27-30 Gorffennaf), a disgwylir i'r twrnamaint golff hynod boblogaidd roi hwb i’r economi ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru gyfan.

Cynhelir y twrnamaint, a noddir gan Rolex, yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl am y drydedd tro, wedi iddo lwyddo i ddenu ymwelwyr a sylw yn y cyfryngau ar draws y byd i gyd yn 2014 ac yn 2017.

Yn 2014, mynychwyd y digwyddiad gan dros 43,000 o wylwyr, gan gynhyrchu gwerth o oddeutu £2.16m i’r economi. Yna yn 2017, amcangyfrifwyd bod yr economi leol wedi elwa cyfwerth â £5.2m o ganlyniad i sylw helaeth ar y teledu.

Eleni, mi fydd y pencampwr presennol, Darren Clarke, yn awyddus i ddal ei afael ar ei dlws, ond bydd cystadleuaeth gref ganddo wrth iddo wynebu golffwyr byd-enwog eraill megis Miguel Angel Jimenez, Padraig Harrington (sydd hefyd yn eicon y Gwpan Ryder), a’r Cymro, Ian Woosnam.

Anogir gwylwyr i fynychu’r digwyddiad drwy wneud defnydd o opsiynau teithio llesol megis cerdded, beicio, rhannu car, neu drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, mae oddeutu 2000 o leoedd parcio ar gael mewn cae cyfagos i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl. Cynghorir y cyhoedd i ddilyn arwyddion am gyfarwyddiadau.

Mae bod yn bartner swyddogol ar gyfer y digwyddiad yn anrhydedd mawr i’r cyngor, ac yn gyfle gwych i arddangos yr hyn sydd gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w gynnig ar lwyfan y byd.

Mae hi hefyd yn braf gweld bod disgyblion o Ysgol Gynradd West Park wedi bod yn cymryd rhan yn y paratoadau ar gyfer y bencampwriaeth drwy fynychu clinig golff yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Mae gan y bencampwriaeth hon y gallu i ysbrydoli ein pobl ifanc am flynyddoedd i ddod.

Os ydych yn aros yn lleol am ychydig ddyddiau, ewch i’n gwefan i ddod o hyd i beth arall y gallwch ei fwynhau yn y fwrdeistref sirol.

Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae tocynnau yn dal i fod ar werth, a gallwch eu prynu ar wefan swyddogol Taith yr Enwogion. Mae tocynnau ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer plant dan 16 oed.

Chwilio A i Y