Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dirprwy Arweinydd yn ennill Gwobr Cydraddoldeb!

Mae'r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Jane Gebbie, wedi ennill Gwobr Ron Todd am Gydraddoldeb ar ôl cael ei henwebu gan fwy nag 11 o sefydliadau neu unigolion.

Gan nad oedd hi’n gallu mynychu’r seremoni wobrwyo, proffil uchel, yn Narlith Goffa Ron Todd yn Llundain, derbyniodd y Cynghorydd Gebbie ei gwobr yn y Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 19 Mawrth. 

Roedd Ron Todd, Arweinydd Undeb Llafur yn Lloegr, yn ymladd am gydraddoldeb cymdeithasol - ethos sy'n sail i holl waith Sefydliad Ron Todd.  Mae gwobrau’r Ddarlith Goffa yn cydnabod gwaith pobl sy’n ceisio cyflawni tegwch cymdeithasol i bawb.

Pleser a braint llwyr yw derbyn y wobr hon am gydraddoldeb. Rwyf mor ddiolchgar o fod wedi cael fy nghydnabod am hyrwyddo elfen sydd mor agos at fy nghalon.

Diolch i bawb am fy enwebu, ac rwy’n ymrwymo i barhau ar yr un llwybr – yn ymdrechu i gyflawni cydraddoldeb bob tro mae’r cyfle’n codi.

Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd

Chwilio A i Y