Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

‘Diolch o galon’ am wneud Apêl Siôn Corn eleni mor llwyddiannus!

Drwy gydol mis Rhagfyr, gwnaethom alw ar gefnogaeth a haelioni grwpiau lleol, eglwysi, busnesau ac aelodau’r cyhoedd caredig i gyfrannu at ein Hapêl Siôn Corn 2023, i sicrhau bod plant sydd dan ein gofal ni yn cael anrheg i’w hagor ar Ddiwrnod Nadolig.

Er yr heriau ariannol, mae’r ymateb i Apêl Siôn Corn eleni, a’r cyfraniadau ati, wedi bod yn anhygoel. Diolch i haelioni cynifer o unigolion a sefydliadau lleol, mae apêl 2023 wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Dyma flas ar rai o'r cyfraniadau:

  • Mae’r dudalen Just Giving, wedi’i rheoli gan ein partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, wedi codi cyfanswm o £4,434 (£3,669 o gyfraniad a £765 mewn Rhodd Cymorth).
  • Mae ein cydweithwyr yn Halo wedi codi £1,000 drwy gyfraniadau yn eu tiliau.
  • Mae disgyblion a staff Ysgol Gyfun Bryntirion ac Ysgol Gyfun Maesteg wedi codi arian at yr apêl, yn ogystal â rhoi anrhegion.
  • Mae tîm Gwasanaethau Cymdeithasol a thîm Llesiant a Gwasanaethau Dydd y cyngor wedi codi arian drwy werthu teisennau.
  • Mae siopau Poundland ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cyfrannu oddeutu 600 o focsys detholiad o siocledi.
  • Mae Eglwys y Bedyddwyr Hope wedi cyfrannu teganau ac anrhegion, yn ogystal ag arian parod.
  • Rhoddodd Millie’s Community Blankets flancedi wedi’u gwau â llaw.
  • Cafodd teganau ac anrhegion eu gadael yn llyfrgelloedd Awen a’r Swyddfeydd Dinesig gan gymuned Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Rhoddodd gwsmeriaid Corvo, bwyty canol y dref ym Mhen-y-bont ar Ogwr, deganau ac anrhegion newydd sbon.
  • Cyfrannodd Gwerthwyr Tai Porters arian parod at yr apêl codi arian.

Diolch i’r 50 o wirfoddolwyr a lapiodd ac a roddodd drefn ar dros 1,400 o deganau ac anrhegion ar gyfer 287 o blant yn y fwrdeistref sirol sydd wedi’u henwebu gan wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar/Dechrau’n Deg i dderbyn anrheg. Maen nhw bellach ar eu ffordd i deuluoedd a phlant yn barod ar gyfer y Nadolig.

Bob blwyddyn, mae’r ymateb i Apêl Siôn Corn yn parhau i’n rhyfeddu, ond credaf mai dyma'r flwyddyn fwyaf llwyddiannus eto! Gwyddom fod y Nadolig yn rhoi straen ariannol ar bawb, felly rydym yn wirioneddol ddiolchgar a hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi cymryd o’u hamser ac wedi gwneud ymdrech i gyfrannu.

Hoffem hefyd ddiolch i’n partneriaid yn Awen a Halo, yn ogystal â busnesau ac elusennau lleol a grwpiau eglwys, ysgolion cyfun lleol a staff y cyngor sydd wedi dod ynghyd i sicrhau bod pob plentyn dan ein gofal yn deffro i anrheg ar fore Nadolig.

Diolch i chi am gyfrannu mor hael - byddai hyn yn amhosibl heb y gefnogaeth aruthrol yr ydym wedi’i chael.

Dirprwy Arweinydd y cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie
Gwaith tîm: Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw David, Dirprwy Arweinydd, y Cyng. Jane Gebbie, Aelodau’r Cabinet, y Cyng. Neelo Farr a’r Cyng. Rhys Goode, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cyng. William Kendall gyda phartneriaid, gwirfoddolwyr, a disgyblion o Ysgol Bryntirion.
Cyfraniadau o deganau ac anrhegion eleni - anhygoel.
Jack Farmer, Rheolwr Corvo Lounge Pen-y-bont ar Ogwr gyda’r Cyng. Jane Gebbie.
Staff yn Poundland, Pen-y-bont ar Ogwr, gyda’u cyfraniadau.

Chwilio A i Y