Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dim pryderon RAAC i ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gadarnhau nad oes unrhyw bryderon ar hyn o bryd yn ymwneud â strwythur unrhyw un o’i adeiladau ysgol yn dilyn y sylw cenedlaethol diweddar o  Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) sy’n cael ei ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu.

Adeiladwyd y rhan fwyaf o ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr cyn 1950 ac ar ôl 1990, yn ystod y cyfnodau hyn, ni ddefnyddiwyd RAAC yn y diwydiant adeiladu.

Hefyd, ni amlygodd arolwg cyflwr adeiladau diweddaraf y cyngor unrhyw bryderon strwythurol ond, i roi sicrwydd pellach i drigolion, mae portffolio’r ysgol yn cael ei adolygu a bydd syrfewyr yn cael eu hanfon i unrhyw adeiladau lle na all y defnydd o RAAC gael ei ddiystyru’n llwyr.

Nid oes unrhyw beth pwysicach nag iechyd a diogelwch ein disgyblion a’n staff felly mae’n braf iawn bod camau rhagofalus wedi’u cymryd i ddiystyru unrhyw bryderon strwythurol, waeth pa mor annhebygol ydynt.

Hoffwn roi sicrwydd i’r holl ddisgyblon, rhieni/gofalwyr a thrigolion lleol fod y pryderon cenedlaethol hyn wedi’u cymryd o ddifrif gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a hoffwn ddiolch i swyddogion am flaenoriaethu’r gwiriadau hyn fel mater o frys.

Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn diweddaru’r holl rieni a gofalwyr gydag unrhyw ddatblygiadau yn ymwneud â’r mater hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Jon Paul-Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

Chwilio A i Y