Dim gwrthwynebiad i gynlluniau Ysgol Pont y Crychydd
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 25 Hydref 2022
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysgol newydd ar gyfer 300 o ddisgyblion fydd yn cymryd lle Ysgol bresennol Pont y Crychydd.
Bydd yr ysgol newydd yn cael ei dylunio i fodloni anghenion arbenigol disgyblion Pont y Crychydd, a chaiff ei chodi ger Island Farm, sydd filltir o safle'r ysgol bresennol ar Heol Ewenni.
Cafwyd cymeradwyaeth gan y cabinet yn dilyn derbyn canlyniad proses ymgynghori statudol, ac ni dderbyniom wrthwynebiadau i'r cynigion.
O ystyried natur arbenigol yr ysgol, cytunwyd y dylid symud y dyddiad agor yn ôl rhai misoedd i dymor y gwanwyn 2026. Drwy wneud hyn, rhoddir amser i gynnal trafodaethau ystyrlon gyda rhanddeiliaid fydd yn llywio dyluniad yr ysgol newydd.
Bydd yr ysgol newydd Ysgol Pont y Crychydd, fydd yn llawer mwy o ran maint, yn cael ei dylunio i fodloni anghenion ei dysgwyr, ac yn cynnig llawer o fuddion sylweddol, gan gynnwys:
- Mwy o leoedd ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Llai o ddysgwyr yn cael eu hanfon i ysgolion y tu hwnt i'r sir (mae hyn yn ddrud, ac yn aml yn gorfodi disgyblion i dreulio peth amser yn teithio).
Bydd disgyblion yn cael cyfrannu at ddyluniadau'r ysgol newydd hon, fydd yn ceisio bod yn Carbon Sero Net, a fydd hefyd yn cynnig adeilad addas a digonol i fodloni eu hanghenion.
Mae'r penderfyniad ynghylch sut i ddefnyddio safle presennol yr ysgol yn y dyfodol yn nwylo'r Cyngor, ac yn dibynnu ar werthusiad opsiynau. Mae prif adeilad yr ysgol hefyd wedi'i restru'n ddiweddar gan Cadw.
Bydd ail-leoli ac ail-adeiladu Ysgol Pont y Crychydd yn rhoi cyfle i fwy o ddisgyblion gael y cymorth arbenigol hanfodol y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu.
Mae prosiect moderneiddio'r ysgol yn gyfle gwych i gynnig y cyfleusterau modern gorau un i bobl ifanc yn y fwrdeistref sirol, ac rwy'n siŵr y bydd y cynlluniau'n cynnig buddion sylweddol am flynyddoedd i ddod.
Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell