Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Digwyddiadau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y fwrdeistref sirol yr wythnos nesaf i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ddydd Sul 1 Hydref.

Cafodd y diwrnod ei ddechrau gan y Cenhedloedd Unedig yn 1990 i anrhydeddu ymdrechion pobl hŷn a'r gwerth maen nhw’n ei gynnig i'n cymdeithas.

Bydd y sesiynau'n cynnwys dosbarthiadau cerdded Nordig, sesiynau teimlo'n dda am oes, grwpiau crefft, grwpiau creadigol lle i anadlu, dosbarthiadau cadw'n heini a llawer mwy.

Bydd Tanio Cymru, Halo Leisure ac Awen Wales yn cyflwyno'r sesiynau a gellir gweld amserlen lawn o'r digwyddiadau ar ein gwefan, ynghyd â manylion am drefniadau cadw lle.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles, "Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn ddiwrnod arwyddocaol i ni anrhydeddu'r bobl hŷn yn ein cymdeithas ac rwy'n falch iawn bod cymaint o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y fwrdeistref sirol.

"Mae rhywbeth ar gael i bawb yn ystod yr wythnos nesaf ac mae'n wych y bydd y digwyddiadau hyn yn parhau yn rheolaidd. Byddwn yn argymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb yn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn i fynychu - rwy'n siŵr y bydd pobl hŷn y fwrdeistref sirol yn cael llawer o fwynhad ohonyn nhw."

I weld mwy o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan Halo Leisure, Tanio Cymru ac Awen Wales, gallwch ymweld â'u gwefannau perthnasol.

Chwilio A i Y