Digwyddiadau 'Haf o Hwyl' gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn plesio teuluoedd lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 09 Awst 2022
Mae digwyddiadau ‘Haf o Hwyl’ sy'n cael eu cynnal gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr eisoes yn boblogaidd gyda theuluoedd lleol, gyda thros 150 o blant yn mynychu’r digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd ym Mharc Gwledig Bryngarw yr wythnos ddiwethaf.
Bydd digwyddiadau ‘Haf o Hwyl’ yn cael eu cynnal drwy gydol gwyliau’r ysgol, gan ddifyrru plant yn ogystal â thynnu sylw at yr hyn a all tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y cyngor ei gynnig i oedolion.
Bydd Parc Lles Maesteg a Pharc Gwledig Bryngarw yn cynnal gweithgareddau am ddim drwy gydol misoedd yr haf. Mae celf a chrefft, gemau, bingo natur a heriau cwis ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael i’r plant, rhwng pedair ac 11 oed, a does dim angen archebu lle ymlaen llaw.
Mantais ychwanegol y sesiynau yw y bydd plant yn treulio amser yn yr awyr agored, yn chwarae yn y parciau, y mae’r ddau ohonynt wedi derbyn Gwobrau Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus yn ddiweddar, mewn cydnabyddiaeth o'u mannau gwyrdd o safon.
Yn ogystal â bod o fudd i blant lleol, mae'r digwyddiadau hyn hefyd wedi'u hanelu at yr oedolion sy'n dod gyda nhw, i arddangos y cymorth all Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ei ddarparu, a chodi ymwybyddiaeth ohono.
Mae'r rhaglen gyflogadwyedd wedi'i pharatoi i helpu'r rhai dros 16 oed sy'n ddi-waith, sydd angen mwy o oriau gwaith, ail swydd neu swydd newydd. Mae’r rhaglen yn dod o hyd i gymwysterau galwedigaethol, a chyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal â rhoi’r cyfle i ddatblygu rhinweddau personol.
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn wasanaeth cymorth ardderchog i’r rhai sy’n chwilio am waith, yn ogystal â’r rhai sydd eisiau gwaith amgen neu ychwanegol.
Gobeithio y bydd sesiynau’r haf yn llwyddo i daro goleuni ar y cyfleusterau sydd gan y tîm i’w cynnig, yn ogystal â chael y fantais ychwanegol o ddarparu hwyl ac adloniant i deuluoedd drwy gydol y gwyliau.
Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr
Os hoffech chi ymuno yn yr hwyl a dod i wybod mwy ynghylch sut all Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr gynnig cymorth, gallwch ddod o hyd i'r tîm yn y digwyddiadau canlynol:
Dydd Llun 8 Awst – Parc Gwledig Bryngarw 10am-1pm
Dydd Mawrth 9 Awst – Parc Lles Maesteg 1-3pm
Dydd Iau 11 Awst – Parc Lles Maesteg 1-4.30pm
Dydd Llun 15 Awst – Parc Gwledig Bryngarw 10am-1pm
Dydd Iau 18 Awst – Parc Lles Maesteg 10am-1pm
Dydd Llun 22 Awst – Parc Gwledig Bryngarw 10am-1pm
Mae gwybodaeth ynghylch digwyddiadau'r haf ar gael ar dudalen Facebook Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr
Gall unrhyw un sy'n ceisio hyfforddiant a chymorth am ddim er mwyn dod o hyd i waith neu swydd newydd gysylltu â'r tîm ar 01656 815317 neu anfon e-bost i employability@bridgend.gov.uk