Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer campws canol tref newydd Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd canol tref Pen-y-bont yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ar 1 Mawrth i amlygu’r cynlluniau ar gyfer datblygiad y campws newydd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys aelodau’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, yn ogystal â Rio Architects, er mwyn amlinellu nodau’r coleg, y cysyniadau dylunio ac amcanion cynaliadwyedd y prosiect.

Bydd campws coleg newydd Pen-y-bont, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, yn cynnwys adeilad carbon sero net, gyda chyfleusterau dysgu ac addysgu’r 21ain ganrif ar gyfer addysg ôl-16, theatr â 200 o seddi, siop goffi, man cyfarfod hyblyg a mwy.

Anogir y cyhoedd i ddod i’r digwyddiad, a bydd cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y prosiect ar ôl y cyflwyniad.

Gallwch gadw lle yn un o dair sesiwn ar y diwrnod:  

  • 12:30pm
  • 2:30pm
  • 4:30pm

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, y cynlluniau ar gyfer y campws newydd, ewch i’r wefan

Chwilio A i Y