Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Digwyddiad ‘Gŵyl Llesiant’ yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr

Mae tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn trefnu digwyddiad ‘Llwybrau Cadarnhaol, Gŵyl Llesiant’ ddydd Iau 29 Mehefin yn y Neuadd Fowlio, Canolfan Fywyd Halo Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ail-lansiad Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl croesawu cyllidwyr newydd. Drwy gyllid Cymunedau am Waith+ Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU, mae tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu cefnogi llesiant fel rhan o’r daith gyflogadwyedd, cam hanfodol cyn i bobl ymgymryd â hyfforddiant neu waith.

Bydd y digwyddiad am ddim, a fydd yn agored i bawb, yn cael ei gynnal rhwng 11am - 3pm, a bydd yn cynnwys sgyrsiau llesiant, crefftau, aromatherapi, ioga, triniaethau harddwch, rhythm a rhigwm, teithiau ricsio a fan goffi’n cynnig coffi am ddim, a llawer mwy!

Mae amserlen lawn o sgyrsiau llesiant i’w gweld isod:

Amser

Gweithgaredd

Gasebo

11:15 – 11:45

Mind

1

11:15 – 11:45

Rhythm a Rhigwm

3

11:30 – 12:00

Lads and Dads

2

12:00 – 12:30

Ymddiriedaeth St Giles

1

12:00 – 12:30

Menshed

3

12:15 – 12:45

Case UK

2

12:45 – 13:15

Mind

1

12:45 – 13:15

Lads and Dads

3

13:00 – 13:30

Ymddiriedaeth St Giles

2

13:30 – 14:00

Case UK

1

13:30 – 14:00

Menshed

3

Mae’r digwyddiad yn dwyn ynghyd ystod eang o sefydliadau sy’n cynnig gweithgareddau, cyngor a chymorth, gan gynnwys gweithgareddau llesiant mwy traddodiadol, fel ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â gemau, grwpiau gweu a sgwrsio, crefftau, cerdded, sesiynau rhoi cynnig ar wallt a harddwch, ffitrwydd, ac ioga.

Rwy’n falch o weld Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd i’r afael â llesiant fel rhan hanfodol o’u gwaith wrth gefnogi pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae llesiant yn gam cyntaf hanfodol ar y daith gyflogadwyedd.

Drwy feithrin cysylltiadau rhwng cyfranogwyr a grwpiau cymorth, cyngor a chymunedol lleol, mae gan gyfranogwyr y cyfle i fagu hyder a llesiant cyffredinol, er mwyn bod mewn gwell sefyllfa i gael mynediad at yr hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Chwilio A i Y