Derbyn enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2023
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n mynd yr ail filltir dros eraill yn aml, sy’n wych am godi arian i elusennau, sydd wedi bod yn hynod ddewr neu sydd wedi rhoi’r ardal leol ar y map drwy gyflawni rhywbeth arbennig dros y 18 mis diwethaf?
Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, mae Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2023, lle bydd unigolion, grwpiau neu fusnesau yn cael eu cydnabod am eu llwyddiannau rhagorol.
Ymhlith yr enillwyr blaenorol mae dau frawd ifanc a achubodd fywyd eu mam ar ôl iddi gael ffit gartref; bachgen 10 oed ag awtistiaeth ac ADHD a gododd dros £1,100 i InclusAbility - grŵp sy’n ei gefnogi a phlant eraill fel ef - drwy reidio 100 milltir ar ei feic yn ystod mis Medi 2021.
Mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych i gydnabod a diolch i bobl arferol sydd naill ai’n byw neu’n gweithio yn y fwrdeistref sirol, sy’n mynd yr ail filltir i helpu eraill.
Mae gwaith rhagorol yn mynd rhagddo bob dydd yn ein cymunedau, sy’n cael effaith real a phositif ar fywydau pobl leol. Mae’n fraint cael bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n amlygu’r arwyr cudd hyn, ac sy’n rhoi’r gydnabyddiaeth y maen nhw wir yn ei haeddu.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddysgu mwy am yr enwebeion a’u hymdrechion ardderchog dros yr 18 mis diwethaf.
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Martyn Jones
Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar agor i bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau lleol a busnesau sy’n gweithio’n lleol.
Agorodd y cyfnod enwebu ddydd Llun 7 Tachwedd 2022, a bydd yn dod i ben ddydd Gwener 13 Ionawr 2023.
Mae tair ffordd y gallwch gyflwyno eich enwebiad ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer. Gallwch:
- gwblhau’r ffurflen ar-lein ar wefan y cyngor.
- lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen - a’i hanfon dros e-bost at mayor@bridgend.gov.uk gydag ‘Enwebiad Gwobr Ddinasyddiaeth 2023’ fel y llinell pwnc.
- lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen a’i hanfon at: Parlwr y Maer, Enwebiadau Gwobr Ddinasyddiaeth y Maer, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB