Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Deg mlynedd o sgorio hylendid bwyd

Mae’r mis hwn yn nodi deg mlynedd o Sgorau Hylendid Bwyd ers eu cyflwyniad fel gofyniad cyfreithiol yng Nghymru yn ôl yn 2013.

Yn wreiddiol, cafodd y sgorau hylendid bwyd eu disgrifio gan y cyfryngau fel ‘scores on the doors’, a dros y degawd ddiwethaf mae’r system Sgorio Hylendid Bwyd wedi datblygu i fod yn rhan hanfodol o sut mae’r Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir yn gweithio i ddiogelu cwsmeriaid wrth annog busnesau i gynnal safonau uchel.

Mae'r system yn gweithio drwy alluogi arbenigwyr iechyd amgylcheddol i ymgymryd ag archwiliadau o fusnesau bwyd yn seiliedig ar feini prawf penodedig, gan roi sgôr rhwng sero a phump iddynt.

Yna, mae’n rhaid i'r sgorau gael eu harddangos ar ffurf sticer du a gwyrdd penodol mewn man amlwg, megis ar ddrws ffrynt neu ffenestr y lleoliad, yn ogystal â chael eu cyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Y bwriad yw rhoi sicrwydd i gwsmeriaid, a’u galluogi i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â lle yr hoffent siopa, gan annog busnesau i wella a chynnal safon uchel o hylendid bwyd a gwasanaeth cwsmer.

Gyda dros 66.5% o fusnesau bwyd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyrraedd y safon uchaf gyda sgôr o bump, a 97.9% yn cyrraedd sgôr o dri ac uwch, mae’r system wedi ei chydnabod yn ffurfiol gan y gymdeithas Frenhinol dros Iechyd Cyhoeddus fel un o gyflawniadau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol y 21ain ganrif.

Ledled Cymru, mae safonau hylendid mewn busnesau bwyd wedi gwella o ganlyniad i’r cynllun gorfodol hwn, gyda 96% o fusnesau bwyd bellach yn bodloni sgôr o dri neu uwch, tra bod ymchwil yn dangos bod y busnesau rheiny sydd â sgorau uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am ledaenu afiechydon bwyd.

Nid oes unrhyw amheuaeth fod y cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi gwellau safonau a sicrhau bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau deallus.

Mae sgôr hylendid uchel yn amlwg yn dda ar gyfer busnes, ac mae’n cynnig mantais gystadleuol i’r rheiny sy’n llwyddo i ennill y sgorau hylendid uchaf.

Mae’r sticer hylendid bwyd yn cynnig ffordd syml a thryloyw o arddangos canlyniadau archwiliad hylendid, ac o ddangos bod bwyd yn cael ei baratoi a’i weini mewn ffordd hylan a glân, a bod y busnes yn bodloni ei ofynion deddfwriaethol ar gyfer hylendid hefyd.

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio, a Chadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

Ychwanegodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: “Rydym yn falch o gynnig y cynllun sgorio hylendid bwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

”Mae awdurdodau lleol yn hanfodol yn llwyddiant y cynllun. Drwy eu hymgysylltiad rheolaidd gyda’r busnes bwyd, maent wedi chwarae rôl allweddol o ran codi safonau hylendid i’r lefel y maent heddiw. Mae'r cynllun yn caniatáu i bobl bleidleisio â’u traed neu drwy wasgu botwm, ac i ddewis y busnesau rheiny sydd o ddifrif am hylendid bwyd.”

Am ragor o wybodaeth, neu i gyrchu sgorau busnesau bwyd lleol, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar https://ratings.food.gov.uk/

Chwilio A i Y