Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dechrau da i Ymgyrch Rhuban Gwyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda gêm bêl-droed leol

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn, 25 Tachwedd 2022, yn disgyn o fewn yr un wythnos â dechrau cwpan y byd dynion FIFA eleni ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi'r ymgyrch, yn briodol, drwy drefnu gêm bêl-droed dra gwahanol!

Wedi'i threfnu gan Wasanaeth Cam-drin Domestig Assia'r cyngor, bydd staff Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn gêm unigryw er mwyn cefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn a helpu i roi diwedd ar achosion o gam-drin merched.

Elusen Rhuban Gwyn yw prif elusen y DU sy'n annog dynion a bechgyn i roi diwedd ar drais yn erbyn merched. Mae dynion sy'n gwisgo'r Rhuban Gwyn yn datgan na fyddent fyth yn cyflawni trosedd yn erbyn merched, nac yn esgusodi nac aros yn fud am drais dynion yn erbyn merched.

Dywedodd Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru:

Rwy'n falch ein bod yn cefnogi ymgyrch #RhubanGwynyDU sy'n rhoi cyfle i ni ailddatgan addewid Rhuban Gwyn i beidio â defnyddio trais dynion yn erbyn merched, nac ychwaith ei esgusodi nac aros yn fud amdano.

Rydym yn cydnabod y gall unrhyw un ddioddef camdriniaeth, fodd bynnag, mae merched yn fwy tebygol o brofi trais a chamdriniaeth, ac mae'r effeithiau'n ddychrynllyd.

Rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid am weithio gyda ni i fynd i'r afael â thrais yn erbyn merched, sy'n un o flaenoriaethau Heddlu De Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru.

Ychwanegodd Huw Jakeway QFSM, Prif Swyddog Tân:

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi'i achredu gan y Rhuban Gwyn ers sawl blwyddyn, ac rydym i gyd yn falch o weithio ochr yn ochr â’n partneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r #Nod.

Byddwn yn annog pob dyn i ymuno â'r tîm i roi diwedd ar drais yn erbyn merched. Mae'r gêm hon yn ffordd briodol o godi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn, yn enwedig gan ein bod yn gweithio ochr yn ochr â'r heddlu a grwpiau cymunedol yn aml i fynd i'r afael â bygythiad ac effeithiau achosion o drais yn y cartref.

Wrth hefyd drafod y gêm, dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol:

Am ffordd wych i'r Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia hyrwyddo a chodi arian ar gyfer achos mor bwysig.

Mae Assia yn cynnig gwasanaeth heb ei ail drwy gydol y flwyddyn, gyda thîm cyfeillgar a phrofiadol yn cynnig ystod o gymorth, gan gynnwys cyngor, arweiniad a noddfa i unigolion sy'n profi trais yn y cartref.

Bydd y gêm yn sicr o fod yn llawn cyffro, ac rydym wir yn gobeithio y bydd pobl yn dod draw i gefnogi. Y cwestiwn mawr yw, 'pwy fydd yn fuddugol?!'

Un bunt yn unig yw'r ffi mynediad, a bydd y gêm elusennol unigryw hon yn cael ei chynnal ddydd Gwener 25 Tachwedd 2022, rhwng 1:45pm a 4pm yng Nghlwb Pêl-droed Pen-y-bont, Parc Bryntirion, Ffordd Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4JU. 

Bydd yr holl arian a godir, gan gynnwys o'r raffl, yn cael ei ddefnyddio i brynu eitemau diogelwch ar gyfer dioddefwyr trais yn y cartref.

Chwilio A i Y