Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Datgloi tir datblygu i adfywio'r glannau

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i symud ymlaen gyda chynlluniau i feddiannu tir yn Sandy Bay a Pharc Griffin sydd ei angen i gyflawni gwaith adfywio ar gyfer y dyfodol ym Mhorthcawl.

Bydd y cam yn galluogi defnyddio bron i 20 hectar o dir at ddibenion cynllunio fel rhan o adfywio ardal glannau'r dref, a bydd yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol a'r Strategaeth Creu Lleoedd sydd wedi’i gymeradwyo’n ddiweddar.

O dan gynlluniau’r cyngor bydd y safle, sy’n cynnwys parc ddiddanu, ar gael ar gyfer datblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys cyfleoedd manwerthu, masnachol, hamdden, tai ac adloniant newydd sbon.

Er mwyn cefnogi’r datblygiad defnydd cymysg, bydd ffordd gerbydol newydd yn cael ei hadeiladu a bydd y safle hefyd yn cynnwys ysgol newydd sbon neu gyfleusterau addysgol estynedig.

Bydd Parc Griffin yn dyblu mewn maint, bydd mynediad i’r traeth yn cael ei wella a’i wneud yn fwy, a bydd cyfleusterau ar gyfer busnesau ac ymwelwyr yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â thua 900 o gartrefi newydd mawr eu hangen.

Bydd y safle hefyd yn cynnwys lle agored newydd neu wedi’i wella’n sylweddol i drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau, a fydd yn ychwanegol at y parc glan môr 200 metr sydd eisoes wedi’i gynllunio fel rhan o ddatblygiad Salt Lake gerllaw.

Gyda’r cyngor yn ymrwymo tuag at ddarparu cyfleusterau tennis modern ar gyfer bob tywydd, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar sut le agored newydd yr hoffai trigolion ei gael, a pha fath o gyfleusterau y bydden nhw’n hoffi iddo ei gynnwys.

Mae hwn yn gam pwysig tuag at ddatgloi potensial ardal y glannau, ac yn ffurfio rhan hanfodol o’n cynlluniau adfywio cyffredinol parhaus ar gyfer Porthcawl. Mae datblygu lle agored croesawgar, diogel ac wedi’i osod yn dda yn parhau i fod yr un mor bwysig i’r cynlluniau â’n nodau ar gyfer darparu Gorsaf Metro newydd Porthcawl neu faes parcio aml-lawr modern newydd sbon yn Hillsboro Place.

Yn unol â’n Strategaeth Creu Lleoedd, rydym ni eisiau i sefydliadau, busnesau a chymunedau lleol weithio gyda ni mewn partneriaeth agos er mwyn cyflawni adfywiad a datblygiad cynaliadwy tra’n parchu a gwerthfawrogi rhinweddau a hunaniaeth unigryw yr ardal ar yr un pryd.

Bydd pobl leol yn cael cyfle i helpu i bennu sut mae’r lle agored newydd hwn yn cael ei ddarparu a pha gymwysterau allai gael eu cynnwys yno, a byddwn yn gwahodd eich safbwyntiau a’ch mewnbwn cyn gynted ag y bydd yr ymgynghoriad yn barod i gael ei lansio.

Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y