Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Datganiad gan Ysgol Gynradd Tondu parthed: Logan Mwangi

Roedd disgyblion, athrawon, staff a llywodraethwyr Ysgol Gynradd Tondu yn torri eu calonnau o glywed am farwolaeth Logan Mwangi, ac mae cymuned yr ysgol yn parhau mewn sioc ac wedi'u tristau’n llwyr o’i golli.

Mae Logan, a oedd yn hogyn bach poblogaidd, egnïol a chyfeillgar, wedi ein gadael gyda llu o atgofion da. Roedd yn blentyn cariadus ac annwyl a oedd yn gwrtais ac yn llawn sgwrs bob amser.

Roedd Logan bob amser yn gwenu, a chafodd ei ddisgrifio yn y llys gan ei athrawon fel un a oedd â’r math o wên a allai oleuo’r ystafell ddosbarth. Roedd yn blentyn hynod o chwilfrydig a oedd yn mwynhau ei wersi, yn enwedig wrth ddefnyddio’r ystafell ddosbarth yn yr awyr agored lle roedd yn cael llawer o hwyl gyda’i ffrindiau.

Roedd Logan wrth ei fodd yn chwarae gyda’i ffrindiau, yn enwedig chwarae cuddio neu ddychmygu bod yn archarwyr. Ei hoff gymeriad oedd Spiderman, a byddai’n dangos cryn hoffter a dychymyg byw yn ei gemau.

Yn bennaf, rydym yn cofio Logan fel plentyn llon a siriol a oedd yn dangos gofal a chariad, ac a oedd yn bleser pur i’w addysgu. Fel cymuned yr ysgol, rydym yn parhau i’w golli, ac yn cynnig cymorth i’n gilydd wrth inni edrych i’r dyfodol.

Mae pob un ohonom yn condemnio gweithredoedd dychrynllyd y rhai roddodd ddiwedd ar fywyd byr Logan mewn modd mor greulon a brwnt, ac yn falch eu bod yn wynebu goblygiadau eu troseddau.

Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda Logan.

Chwilio A i Y