Datganiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 17 Mai 2022
Mae BCBC yn ymwybodol o ddiddordeb cyhoeddus mewn penodiad diweddar i’r rôl Rheolwr Ymateb i’r Newid yn yr Hinsawdd.
Cafodd y swydd ei hystyried gan y Cabinet ym mis Mehefin 2020 yn yr adroddiad “Rhaglen Ymateb i Argyfwng yr Hinsawdd Cyngor Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”.
Hysbysebwyd y swydd wedi hynny a chafodd swyddog ei benodi ym mis Chwefror 2021.
Ar ôl diswyddiad deiliad blaenorol y swydd, cafodd y swydd ei hysbysebu eto ym mis Mawrth eleni.,
Lluniwyd y rhestr fer a chynhaliwyd cyfweliadau ym mis Ebrill 2022.
Roedd y panel cyfweld yn cynnwys y Pennaeth Gwasanaeth priodol, Rheolwr Grŵp ac ymgynghorydd technegol.
Er bod y panel cyfweld yn hyderus bod polisïau recriwtio'r Cyngor wedi'u cymhwyso'n llawn ac yn deg, o ystyried y diddordeb sylweddol y mae'r mater hwn wedi'i ysgogi, ac er mwyn tawelu meddyliau, mae'r Prif Weithredwr wedi gofyn i'r Adran Archwilio Mewnol adolygu'r mater ac ymgymryd â gwaith a fydd yn cyflwyno amserlen gronolegol o ddigwyddiadau, a cheisio sicrwydd diduedd bod protocolau a pholisïau recriwtio cymeradwy'r Cyngor wedi cael eu dilyn yn gywir. Bydd hyn yn cynnwys bodloni eu hunain bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn bodloni'r meini prawf perthnasol ar gyfer y swydd.