Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Datganiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: Dim RAAC wedi’i ganfod yn ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) gadarnhau nad oes unrhyw goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) wedi’i nodi yn unrhyw ysgol yn y fwrdeistref sirol.

Er bod BCBC yn sicr nad oes RAAC wedi’i ganfod yn adeiladwaith unrhyw un o’n hysgolion, bydd swyddogion yn parhau i gynnal gwiriadau terfynol, lle mae addasiadau neu newidiadau wedi’u gwneud dros amser.  Mae hyn er mwyn sicrhau nad oedd RAAC wedi'i ddefnyddio mewn gwaith addasu o'r fath, a gyda’r rhan fwyaf o’r archwiliadau hyn eisoes wedi dod i ben, nid ydym yn disgwyl canfod unrhyw RAAC yn ein hysgolion o gwbl.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn diweddaru’r holl rieni, disgyblion, staff a thrigolion gydag unrhyw ddatblygiadau posibl yn y dyfodol.

Chwilio A i Y