Datganiad: Damwain traffig ffordd ddifrifol yn Llangynwyd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 12 Awst 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydymdeimlo â theulu a chyfeillion merch 28 oed a fu farw mewn damwain draffig yn gynharach yn yr wythnos. Mae ein meddyliau hefyd gyda'r unigolion a gafodd eu cludo i'r ysbyty.
Bu damwain rhwng dau gerbyd am 21:24pm nos Fercher (10 Awst) ar yr A4063, 1/2 milltir i'r gorllewin o'r melinau papur yn Llangynwyd, Maesteg.
Cafodd tri pherson eu hanafu. Yn anffodus canfuwyd y gyrrwr yn farw yn y fan a'r lle, a chafodd y ddau berson arall a oedd wedi'u hanafu eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth.
Mae archwiliadau'r heddlu'n mynd rhagddynt a gofynnir i unrhyw un a welodd y ddamwain gysylltu â Heddlu De Cymru a dyfynnu’r rhif achos 2200269545.