Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cytuno ar drefniadau i ddymchwel maes parcio canol y dref er mwyn gwneud lle i gampws coleg newydd

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi caniatáu i’r cyngor symud ymlaen gyda thrafodaethau gyda chadwyni archfarchnad Aldi ac ASDA, yn ogystal â Network Rail, ar gyfer y cynllun arfaethedig i ddymchwel maes parcio aml-lawr Brackla One yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr - a fyddai’n symud datblygiad campws newydd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr gam ymlaen. 

Wedi iddo fod ar gau ers cryn amser, bu i asesiad strwythurol yn 2019 ddatgelu bod angen gwaith atgyweirio sylweddol i'r maes parcio pe bwriedir gwneud defnydd ohono unwaith eto, a phenderfynwyd felly mai dymchwel yr adeilad ac ailddatblygu'r fyddai’r dewis gorau.

Nid yw dymchwel Brackla One yn broses syml oherwydd ei fod wedi ei adeiladu drwy ddefnyddio dull slab, a gall y math hwn o adeilad ddod yn ansefydlog wrth i rannau ohono gael eu dymchwel neu eu tynnu.  Fodd bynnag, yn unol â’r drefn arferol, bydd unrhyw risg bosib neu effaith ar bartïon cyfagos, yn enwedig Aldi, Asda a Network Rail, yn cael eu lleddfu neu eu hosgoi drwy’r cytundebau y cytunwyd arnynt. 

Mae’r trefniadau gyda National Rail ychydig yn gymhleth, yn yr ystyr bod ganddynt gyfrifoldeb statudol dros isadeiledd y rheilffordd, gan gynnwys ei gwarchod a’i gweithredu’n ddiogel.  Bydd y cyngor yn ffurfio Cytundeb Amddiffyn Asedau Sylfaenol (BAPA) gyda Network Rail, a fydd yn amlinellu rhwymedigaethau ac atebolrwydd y partïon dan sylw. 

Mae’r cytundeb BAPA hefyd yn gofyn i’r cyngor gytuno i dalu’r gost o gael Network Rail yn rhan o'r prosiect, ac i wneud taliad ymlaen llaw gyfwerth â’r costau disgwyliadwy sydd ynghlwm â’r cynllun. 

Mae tendrau wedi eu rhyddhau, a bydd manylion costau ar gael pan fydd y contractwr a ddewisir ar gyfer y gwaith dymchwel yn dechrau trafodaethau gyda Network Rail, a fydd yn amlygu’r gofynion priodol o ran amddiffyn y brif linell drwy gydol gwahanol gymalau’r prosiect.                                                                                                  

 

Mae cytundeb y cabinet i’r cyngor barhau gyda thrafodaethau ynghylch y cytundeb BAPA gyda Network Rail, yn ogystal â chytundebau eraill gydag Aldi ac ASDA ,yn golygu y gall y cynlluniau i ddymchwel y maes parcio symud yn eu blaenau.

Mae hon yn rhan hanfodol o’r rhaglen gynllunio sydd â’r nod o adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr dros y deng mlynedd nesaf, bydd y datblygiad arfaethedig ar gyfer Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei adeiladu ar safle Brackla One a chyn safle Gorsaf Heddlu De Cymru yn Cheapside.

Bydd y campws, a fydd yn agor ym mis Medi 2026, yn cynnwys dau adeilad newydd yn Cheapside a fydd yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu rhagorol, gan gynnwys theatr, salonau harddwch a thrin gwallt, stiwdios dawns a recordio, gweithdai dylunio a mwy.

Mae lleoliad y campws newydd yn addo cyfrannu’n sylweddol at economi canol tref Pen-y-bont ar Ogwr - bydd nifer y myfyrwyr a staff fydd yn ymweld â’r dref yn ddyddiol yn sicr o roi hwb i fusnesau lleol.

Mae’r buddsoddiad hwn yn gam cyffrous yn adfywiad canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Chwilio A i Y