Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyswyllt llwybr teithio llesol newydd ar gyfer safle cyflogaeth Brocastell

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r newyddion bod gwaith wedi dechrau ar lwybr teithio llesol newydd a fydd yn cysylltu Waterton â safle cyflogaeth strategol newydd ym Mrocastell.

Mae'r llwybr gwerth £2m, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn rhedeg gyferbyn â'r A48 am thua dau gilometr, ac yn cynnwys llwybr beicio, croesfannau ffordd gyda signalau, signalau traffig newydd, goleuadau ffordd, palmant newydd, gwaith ail-wynebu a mwy.

Disgwylir i'r llwybr newydd gael ei gwblhau erbyn dechrau'r hydref, a bydd yn nodi cwblhau'r gwaith seilwaith ehangach ar safle Brocastell, lle mae £10m wedi'i fuddsoddi i drawsnewid 116 erw ac mae caniatâd cynllunio amlinellol wedi'i rhoi ar gyfer hyd at 770,000 troedfedd sgwâr o lawr.

Gyda'r nod o helpu twf economaidd a chreu swyddi, mae safle Brocastell yn cael ei farchnata i ddenu buddsodded newydd gan fusnesau modern, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhad bod trafodaethau eisoes yn cael eu cynnal dros sawl cynnig.

Mae effaith diweddar costau cynyddol tanwydd yn pwysleisio'r angen i ni ganfod ffyrdd newydd o wneud teithiau byr yn ogystal â phwysigrwydd cynyddol llwybrau teithio llesol.

Mae safle datblygiad Brocastell yn cynnig cyfle cyffrous i ddenu busnesau newydd di'r ardal er mwyn iddi elwa ar gyflogaeth a buddsoddiad newydd, ac rwy'n sicr y bydd y llwybr newydd yn chwarae rôl werthfawr yn y broses hon.

Rwy'n falch gweld bod y gwaith ar y llwybr newydd wedi dechrau, ac edrychaf ymlaen at ei weld wedi'i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick

Chwilio A i Y