Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynnydd yn parhau ar ailddatblygiad gwerth miloedd o bunnoedd yn Neuadd y Dref Maesteg

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ailddatblygiad gwerth miloedd o bunnoedd yn Neuadd y Dref Maesteg gyda ffrâm dur yr estyniad gwydr newydd yn cael ei godi a'i gosod yn ddiweddar gan y contractwyr, Knox and Wells.

Mae lefelau llawr newydd yn yr estyniad wedi'u ffurfio, ac o'r fynedfa ar Stryd Talbot, mae cyfres newydd o risiau'n cynnig mynediad at beth fydd llawr isaf y llyfrgell a'r ardal gaffi. Mae addurnwyr wedi cyrraedd y safle'n ddiweddar ac yn paratoi i beintio nenfwd y llyfrgell newydd.

Yn ogystal â chyfres newydd o risiau at y llawr gwaelod, bydd mynediad at y llawr cyntaf ar gael drwy risiau newydd a lifft hygyrch, gan alluogi gwell mynediad o lawer at yr holl lefelau cyhoeddus am y tro cyntaf.

Yn ddiweddar, mae tŵr y cloc, a oedd mewn angen gwaith atgyweirio ac adfer helaeth, wedi'i gwblhau, a nawr bod y sgaffaldau wedi'u tynnu, gall y gymuned leol weld nodwedd fwyaf nodweddiadol y Neuadd.

Y tu mewn, mae sylw tebyg wedi'i roi i fanylion wrth ddatgelu a chadw nodweddion treftadaeth y Neuadd, sy'n cynnwys y pyrth bwaog brics, teils, cornisiau a cholofnau.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Neuadd y Dref Maesteg, Rheolwr Theatrau Pen-y-bont ar Ogwr, Marina Newth, a gweithwyr Awen, sesiynau gyda chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol lleol i drafod sut fydd y neuadd yn cael ei defnyddio pan fydd yn ailagor.

Mae'r sesiynau wedi cynnig cyfle ar gyfer cwestiynau ac atebion, yn ogystal â thrafodaethau agored am ddefnyddio'r neuadd a'i chyfleusterau. Cafwyd presenoldeb da gan grwpiau elusennol, plant, drama, dawns a cherddoriaeth, y mae rhai ohonynt eisoes wedi archebu'r neuadd ar gyfer dyddiadau yn 2023.

Dywedodd grŵp dawns lleol, UDC Dance: "Rydym ar bigau i ddod gartref."

Mae'n wych gweld gwaith yn mynd rhagddo ar ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg ac mae'n bleser clywed y byddai'n cael ei fwynhau gan y gymuned pan fydd yn ailagor, gyda digwyddiadau eisoes yn cael eu trefnu ar gyfer 2023.

Wrth i strwythur yr atriwm newydd sbon ddechrau siapio, mae'r weledigaeth o'r hyn a fydd yn ardal ddiwylliannol a chymunedol newydd sbon ar gyfer pobl yn dechrau dod ynghyd.

Bydd yr adeilad hanesyddol hwn, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, yn parhau fel piler y gymuned yng nghanol Maesteg, gyda chyfleusterau hygyrch a chynhwysol newydd sbon i bawb eu mwynhau.

Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr

Am ragor o wybodaeth ynghylch trefnu digwyddiad, cysylltwch â Marina Newth drwy anfon e-bost at: marina.newth@awen-wales.com.

Mae'r prosiect gwerth £7.9m yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cyllid adfywio Llywodraeth Cymru, Tasglu'r Cymoedd, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Maesteg, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Davies, Ymddiriedolaeth Pilgrim, CADW, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru a'i His-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar drawsnewidiad Neuadd y Dref Maesteg.

Chwilio A i Y