Cynllun i gael gwared â Chlymog Japan yn dechrau ar ei bedwaredd flwyddyn
Poster information
Posted on: Dydd Iau 11 Awst 2022
Mae cynllun sy’n ceisio cael gwared â Chlymog Japan yng Ngwm Garw ar fin dechrau ar ei bedwaredd flwyddyn.
Mae’r rhywogaeth oresgynnol anfrodorol hon sy’n aml i’w gweld yn tyfu ar hyd glannau afonydd, traciau rheilffordd, coetiroedd a hyd yn oed meysydd parcio, yn ffurfio llwyni trwchus sy’n tyfu hyd at dri metr o uchder ac yn cymryd lle planhigion brodorol ac unrhyw rywogaethau llysieuol eraill.
Gall hyd yn oed tameidiau bach iawn o wreiddyn neu eginyn arwain at achosion newydd, felly mae’n drosedd i achosi i Glymog Japan ledaenu, a rhaid cymryd gofal mawr wrth ddelio ag ef.
Yn 2018, dechreuodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr weithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cyngor Cymuned Cwm Garw, Cwmni Rheilffordd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, Cadw Cymru’n Daclus a Chymdeithasau Pysgota Cwm Ogwr a Chwm Garw i gyflawni gwaith tymor hir wedi’i ddylunio i reoli ac yn y pendraw chael gwared â Chlymog Japan ar hyd coridor afon Cwm Garw.
Hon fydd y bedwaredd flwyddyn i’r bartneriaeth gydweithio i dargedu twf Clymog Japan ledled Cwm Garw, ac rydym yn parhau’n ymroddedig i wella a diogelu cynefinoedd lleol fel y gall llystyfiant a bywyd gwyllt ffynnu.
Mae cael gwared â Chlymog Japan yn gallu bod yn anodd iawn, y ffordd haws i ddelio ag achosion yw ei chwistrellu sawl gwaith â chwynladdwr cymeradwy sy’n addas ar gyfer ardaloedd gerllaw dyfrffos. Caiff y gwaith hwn ei wneud gan weithredwyr cymwys rhwng mis Awst a diwedd mis Medi, a bydd arwyddion yn cael eu gosod i roi gwybod i bobl bod gwaith yn cael ei wneud.
Oherwydd ei natur, mae hon yn broses hirfaith a llafurus, ond mae’r sefydliadau sydd wedi dod ynghyd i fynd i’r afael â Chlymog Japan yn benderfynol o gael gwared â’r pla hwn yn llwyr o Gwm Garw. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â Chlymog Japan mewn ardaloedd eraill yn y fwrdeistref sirol, ac rydym wrthi’n defnyddio Cronfa Tir y Cyhoedd i sefydlu swydd newydd i fapio â delio â rhywogaethau goresgynnol, anfrodorol fel rhan o fenter gwerth £65,000.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:
Os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch y gwaith, ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu anfonwch e-bost i: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
A wyddoch chi?
- Mae Clymog Japan (Fallopia japonica) yn tarddu o Japan, Taiwan a gogledd Tsieina. Cafodd ei gyflwyno i’r DU ar ddechrau’r 19eg ganrif fel planhigyn addurnol.
- Mae achosi i Glymog Japan ledaenu bellach yn drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 - ni ddylid ei strimio, ei docio, ffusto, ei dorri na darfu arno mewn unrhyw ffordd arall.
- Ystyrir Clymog Japan yn wastraff a reolir o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (1990) a rhaid cael gwared ag ef mewn tomen drwyddedig, gyda thrwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Dylai unrhyw un sy’n bwriadu rheoli Clymog Japan heb ddefnyddio chwynladdwyr gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael cyngor.
- Ni ddylech roi toriadau o Glymog Japan mewn compost na chael gwared ohono fel gwastraff gwyrdd.
- Dylid chwistrellu Clymog Japan gyda chwynladdwr ar ddiwedd y tymor tyfu, ychydig cyn i’r planhigyn wywo ar ddechrau mis Medi.
- Dylid chwistrellu mewn amodau llonydd, sych, pan nad yw glaw yn cael ei ragweld am 24 awr ar ôl chwistrellu.
- Ni fydd defnyddio chwynladdwr yn gynharach yn y tymor yn effeithiol, ond efallai bydd angen chwistrellu eto mewn blynyddoedd dilynol i ladd unrhyw egin sydd ar ôl.
- Os ydych yn chwistrellu o fewn 10 metr i ddyfrffos, rhaid cael caniatâd ymlaen llawn gan Cyfoeth Naturiol Cymru a rhaid i chi ddefnyddio cynhyrchion sydd wedi’u creu’n benodol ar gyfer amgylchedd dyfrol.
- I gael gwybod mwy am Glymog Japan, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.