Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun Datblygu Lleol yn symud at y cam nesaf

Mae uwchgynllun a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddewis pa ddatblygiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a 2033 wedi symud gam yn nes.

Mae aelodau o'r Cabinet wedi cytuno i gyfeirio'r cynllun at gyfarfod Cyngor llawn yn y dyfodol, ynghyd ag argymhelliad y byddai'n cael ei gymeradwy a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru am arholiad annibynnol.

Mae'r cynllun, sydd wedi cymryd tair blynedd i'w lunio, ac sy'n gannoedd o dudalennau o hyd, wedi bod yn destun gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth sylweddol, yn ogystal â phroses ymgynghori cyhoeddus helaeth sydd wedi ystyried dros 1,200 o sylwadau gan bobl leol.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cynnwys yr holl bolisïau y bydd yr awdurdod yn eu defnyddio wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau cynllunio yn y dyfodol. Mae'n amlinellu sut y gellir defnyddio tir ledled y fwrdeistref sirol, a pha rannau fydd yn cael eu cynnal fel mannau agored neu’n cael eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, y gymuned a thwristiaeth.

Mae'r cynllun yn ymgorffori nifer o safleoedd datblygu posib ac yn cynnwys safleoedd ym Mhorthcawl, y Pîl, Pencoed, Island Farm a thir i'r gorllewin o Ben-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â safleoedd a nodir yn uwchgynllun canol y dref.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn cynnig sicrhau bod digon o dir ar gael i gefnogi cynnydd disgwyliedig yn y boblogaeth, i ddatblygu 7,500 o swyddi newydd ac i adeiladu 7,575 o dai newydd, gan gynnwys 1,600 o dai fforddiadwy, y mae rhai ohonynt eisoes wedi'u hadeiladu, ynghyd â lwfans hyblygrwydd o 10 y cant.

Mae hefyd yn cynnwys cynnig pum ysgol gynradd newydd, datblygiadau trafnidiaeth fel cyfleusterau parcio a theithio ym Mhorthcawl, a gorsaf drenau bosib ym Mracla, cyfleusterau parcio a theithio mwy / newydd yn y Pîl, Ffordd Ewenni Maesteg a Phencoed, a phont ffordd newydd dros yr orsaf drenau ym Mhencoed.

Dan y Cynllun Datblygu lleol, bydd holl safleoedd bywyd gwyllt SINC a safleoedd diddordeb gwyddonol SSI yn cael eu diogelu, ac mae darpariaethau ar gyfer cynyddu mannau agored cyhoeddus yn ogystal â nifer y rhandiroedd lleol.

Mae datblygiadau allweddol eraill yn cynnwys sefydlu cylch osgoi newydd a gwasanaethau trenau hanner awr i Faesteg, a gwelliannau i ffordd fysys yng nghymoedd Llynfi, Cwm Ogwr a Garw, rhwng Porthcawl a Chorneli, a rhwng y Pîl, Abercynffig a Phencoed.

Ers y drafft blaenorol, mae sawl newid sylweddol wedi'i wneud i'r Cynllun Datblygu Lleol. Nid yw Parc Afon Ewenni bellach yn safle tai strategol posib oherwydd gofynion cynllunio o ran datblygiad o fewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, tra bod safle posib ar gyfer llety sipsiwn a theithwyr ar dir i ogledd-ddwyrain depo'r cyngor ym Mryncethin hefyd wedi'i hepgor oherwydd newidiadau mewn angen a nodwyd.

Mewn mannau eraill, mae gwaith atal llifogydd a wnaed ym Mhorthcawl wedi cefnogi datblygiad adfywio arfaethedig yn ardaloedd Llyn Halenog, Traeth Coney a Bae Tywodlyd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick: "Rydym wedi bod yn gweithio ar y Cynllun Datblygu Lleol newydd ers tair blynedd, ac mae'n ganlyniad i waith ymchwilio a dadansoddi sylweddol, ac rwy'n credu bod ein tîm cynllunio wedi cael hwyl arbennig wrth ei baratoi'n fanwl ar gyfer y fwrdeistref sirol.

"Mae'n nodi cydbwysedd o ddatblygiadau preswyl, masnachol a hamdden sydd wedi'u cynllunio'n ofalus a fydd yn sicrhau bod modd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fodloni galw yn y dyfodol rhwng nawr a 2023, wrth hefyd annog cyflogaeth a buddsoddiad newydd.

"O'r adborth a dderbyniwyd drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae'n amlwg bod rhai trigolion yn bryderus am yr effaith bosibl gall ddatblygiad ychwanegol ei gael ar gyfleusterau gofal iechyd, lefelau traffig, ysgolion, cyfleustodau a mannau gwyrdd.

"Rwyf eisiau tawelu meddwl y trigolion hynny na fydd modd ymgymryd ag unrhyw ddatblygiad dan y Cynllun Datblygu Lleol oni bai bod modd iddo gyflwyno pa bynnag welliannau seilwaith ychwanegol a all fod yn ofynnol, a bod hyn yn cynnwys pethau fel ffyrdd, ysgolion, Meddygfeydd Teulu, cyfleusterau cymunedol, awyr agored, hamdden a mwy."

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: Rydym yng nghanol argyfwng tai cenedlaethol, ac rydym eisoes yn cefnogi tua 200 o deuluoedd ac unigolion digartref.

"Mae data'r cyfrifiad diweddaraf hefyd wedi cadarnhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn un o'r ardaloedd sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac ein bod yn cadw'n gyfartal ag ardaloedd llawer mwy, fel Caerdydd.

"Mae pobl yn byw'n hirach, ac mae'r sefyllfa'n mynd i waethygu oni bai ein bod yn cynllunio ymlaen llaw nawr ac yn sicrhau bod modd cynnig rhagor o dai er mwyn bodloni'r galw cynyddol.

"Ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni gydbwyso anghenion preswyl gyda datblygiadau sy'n cefnogi buddsoddiad a chyflogaeth newydd, ac mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ein galluogi i wneud hynny wrth hefyd ystyried ystod eang o ddeddfwriaethau a chanllawiau ychwanegol.

"Y cam nesaf nawr yw i'r Cyngor drafod y Cynllun Datblygu Lleol, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, lle caiff ei asesu'n annibynnol fel rhan o ymchwiliad sy'n cael ei lywyddu gan arolygwr cynllunio.

"Ar ôl i'r broses honno ddod i ben, bydd y Cynllun Datblygu Lleol drafft yn mynd gerbron cyfarfod gyda'r Cyngor llawn i gael penderfyniad terfynol. Os caiff ei gymeradwyo bryd hynny, bydd yn gweithredu fel y Cynllun Datblygu Lleol newydd am y 15 mlynedd nesaf."

Cwestiynau cyffredin am y Cynllun Datblygu Lleol

Beth yw'r Cynllun Datblygu Lleol?

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys yr holl bolisïau y bydd y cyngor yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Mae'n defnyddio'r data diweddaraf i bennu beth fydd yr anghenion lleol yn y dyfodol, nodi sut fydd y tir yn cael ei ddefnyddio, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol fydd yn cael eu cynnal fel mannau agored a pha rannau fydd yn cael eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, y gymuned a thwristiaeth.

Beth yw ei bwrpas?

Heb y Cynllun Datblygu Lleol, bydd datblygiad yn digwydd ledled y fwrdeistref sirol heb reolaeth. Yn hytrach na defnyddio safleoedd tir llwyd ar gyfer tai, byddai pwysau sylweddol i ryddhau safleoedd tir glas mewn lleoliadau anghynaladwy. Byddai hyn yn achosi prosesau apelio cynllunio hir a drud a datblygiadau a fyddai'n tanseilio unrhyw strategaethau hirdymor ar gyfer yr ardal.

Beth mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ei wneud?

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi ac yn rheoli yn union lle a sut fath o ddatblygiad all gael ei gynnal, ac yn ceisio sefydlu rhwydwaith o gymunedau diogel, iachus, cynhwysol sy'n arddangos swyddogaethau cyflogaeth, gwasanaethau a thrafnidiaeth cryf, ac sy'n cysylltu â'r rhanbarth ehangach i ysgogi twf economaidd cynaliadwy.

Pam mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu i dai newydd gael eu hadeiladu?

Rydym yn wynebu prinder tai cenedlaethol a phoblogaeth sy'n byw'n hirach. Mae tua 200 o deuluoedd ac unigolion mewn llety dros dro ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym ar hyn o bryd yn buddsoddi dros 500 achos o ddigartrefedd. Mae hyn yn golygu, gyda'r cynnydd a ragwelir yn y boblogaeth, y bydd angen mwy o gartrefi ar bobl i fyw ynddynt, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam mae tai tebyg yn cael eu cynllunio mewn ardaloedd eraill fel Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot etc.

Sut mae cyfrifo faint o dai newydd sydd eu hangen?

Mae nifer y tai ychwanegol sydd eu hangen ar ardal yn cael ei bennu'n ofalus gan ddefnyddio data poblogaeth leol a mwy.  Hyd yn oed pe bai pob datblygiad newydd sydd wedi'i gynnig yn mynd yn ei flaen, byddai'r niferoedd rhagweladwy yn cyrraedd tua 200 o dai newydd bob blwyddyn am y 15 mlynedd nesaf.

Oni fyddai mwy o dai yn golygu mwy o draffig?

Rhaid i unrhyw ddatblygiad sy'n cael ei gynnal hefyd arddangos ei fod yn gynaliadwy. Mae hyn yn golygu, dan y Cynllun Datblygu Lleol, ni fydd datblygiad yn cael i gymeradwyo i fynd rhagddo, oni bai ei fod hefyd yn cyflawni pa bynnag welliannau seilwaith ychwanegol a all fod yn ofynnol, gan gynnwys i ffyrdd. Mae asesiadau trafnidiaeth cynhwysfawr yn ystyried yr effaith ar y rhwydwaith priffyrdd lleol, tra bod asesiad trafnidiaeth strategol yn gwerthuso a oes angen gwneud gwelliannau i'r seilwaith cysylltiedig. Erbyn hyn, mae polisi cynllunio cenedlaethol yn gofyn i Gynghorau ddatblygu rhwydweithiau teithio llesol fel opsiwn amgen i ddefnyddio car ar gyfer teithio'n lleol.

Beth am y galw ar wasanaethau fel ysgolion, Meddygon Teulu, siopau etc?

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn ystyried hyn - caiff ei lunio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fel eu bod yn gallu cynllunio ymlaen llaw er mwyn bodloni galw yn y dyfodol. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn ceisio cyflwyno datblygiadau ar raddfa fawr gan bod hynny'n golygu y gellir cyflawni'r seilwaith ategol newydd ar yr un pryd. Er enghraifft, byddai angen i ddatblygiad tai newydd ger tref Pen-y-bont ar Ogwr gynnwys 20 y cant o dai fforddiadwy, ysgolion cynradd newydd, cyfleusterau addysg ehangach, cyfleusterau hamdden newydd, man agored cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol newydd, defnyddiau masnachol a mwy.

Sut mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn annog swyddi a busnesau newydd?

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn manylu lle bydd modd ymgymryd â gwaith datblygu masnachol a diwydiannol, ac mae denu a datblygu gweithlu medrus yn ffactor bwysig o ran annog cyflogwyr presennol a newydd i fuddsoddi yn yr ardal. Drwy gydol y gwaith, mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio creu tua 5,000 o swyddi newydd, cydbwyso anghenion tai a chyflogaeth, cefnogi cyfleoedd gwaith newydd, a chynnig lefel realistig o dir y gellir ei ddatblygu at ddibenion cyflogaeth.

A yw'r cyngor yn elwa o dai newydd drwy gynhyrchu mwy o'r dreth gyngor?

NID yw tai ychwanegol yn cynhyrchu refeniw ychwanegol drwy'r dreth gyngor. Cyn dyfarnu ei grant setliad blynyddol i'r cyngor, a ddefnyddir i gyflwyno gwasanaethau, mae Llywodraeth Cymru yn didynnu swm y dreth gyngor y disgwylir i ardal ei chynhyrchu.

Sut mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn effeithio ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth?

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn sicrhau bod mesurau ar waith i ddiogelu pryderon bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Cyn bod modd dechrau ar unrhyw waith datblygu, bydd angen i ddatblygwr gyflwyno cynlluniau rheolaeth ecolegol yn dangos sut fyddant yn lliniaru, atgyfnerthu a chynnal cynefinoedd penodol, gan gynnwys ar gyfer rhywogaethau a warchodir fel ystlumod a phathewod. Yn achos safleoedd fel Island Farm a Merthyr Mawr, byddai angen sefydlu cysylltiad 'ysgyfaint gwyrdd' â Chaeau Newbridge.

A yw'r Cynllun Datblygu Lleol yn amddiffyn safleoedd diwylliannol a threftadaeth?

Ydy – bydd safleoedd fel Hut Nine yn cael eu diogelu o hyd, ac yn ogystal â threfniadau diogelu treftadaeth, bydd angen i ddatblygwyr gytuno i fodloni amodau priodol sy'n amrywio o dirlunio gwyrdd, mesurau lleihau traffig a gwelliannau priffyrdd i fwy o gysylltiadau cerdded a beicio, gwell trafnidiaeth gyhoeddus, systemau draenio effeithiol a mwy.

Chwilio A i Y