Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun cau ffordd yng nghyfnewidfa Sarn oherwydd gwaith arwynebu newydd

Mae gwaith ail-wynebu hanfodol, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y priffyrdd sy’n ffurfio cyfnewidfa Sarn (Cyffordd 36 yr M4) i fod i ddechrau ar ddydd Llun 12 Medi, gyda gyrwyr yn cael eu rhybuddio y bydd peth oedi’n debygol.

Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau dros tua un noson ar ddeg, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 11pm a 5am - yn ddibynnol ar y tywydd.  Er y bydd gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y nos, mae gyrwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio ffyrdd eraill, gan fod tarfu’n debygol. Dylai gyrwyr hefyd fod yn ymwybodol o gau lonydd, o 8pm ymlaen bob dydd yn ystod cyfnod y gwaith. 

Bydd y ffyrdd yr effeithir arnynt dros nos yn cynnwys y bont A4061 dros yr M4 (Gogledd a’r De) a chylchfannau Sarn yr A4061 (Gogledd a’r De). Pan fydd angen, yn ystod y cyfnod hwn o waith, bydd mynediad i bentref McArthur Glen Designer Outlet, ac oddi yno, gan gynnwys KFC, Harvester, Odeon a Premier Inn yn cael ei gyfeirio drwy gyrchfan A4061 yn unig. Bydd arwyddion dargyfeirio wedi eu gosod i gynorthwyo gyrwyr.

Mae'r cynllun, sy’n costio £350K, yn rhan o raglen gwella priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd yn cynnal gwaith ail-wynebu, atgyweirio, a gwelliannau hanfodol ar draws y fwrdeistref sirol.

Rydym yn hynod ddiolchgar am fuddsoddiad parhaus y rhwydwaith priffyrdd hanfodol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ers peth amser, rydym wedi bod yn cysylltu â busnesau lleol, yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru (SWTRA), oherwydd cau ffyrdd ymuno â’r M4 ar adegau penodol, gyda’r gobaith o gyfyngu ar yr amhariadau i bawb dan sylw. Ymddiheurwn am unrhyw oedi dros dro a gofynnwn i yrwyr am eu dealltwriaeth a’u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:

Chwilio A i Y