Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynilwyr campus o Ysgol Gynradd Corneli yn ennill gwobr gan Undeb Credyd

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Corneli wedi ennill ‘Gwobr Partneriaeth Ysgolion Uchel ei Bri'r Undeb Credyd’ am eu gwaith gydag Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr.  Cipiodd y dysgwyr y wobr yng ngwobrau Undebau Credyd Cymru yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd fis diwethaf.

Ar ôl cynnal clwb cynilo o 2015 i 2016, aeth yr ysgol ati i ail-gyflwyno Cynllun Cynilo Ysgol Gynradd Corneli yn ddiweddar, gan ddefnyddio dull ysgol gyfan.  Mae staff addysgu, llywodraethwyr a swyddogion cymorth dysgu wedi ymgymryd â rolau arweiniol, gyda chymorth disgyblion Blynyddoedd 4 i 6.

Dywedodd Kirstie Evans, Pennaeth yr Ysgol: “Mae Cynllun Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr wedi helpu i hyrwyddo a chefnogi llythrennedd ariannol ar draws ein hysgol a chymuned ein hysgol. Mae disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni a mamau-cu a thadau-cu’n manteisio ar y cynllun cynilo hwn. Mae cynilo arian yn grefft bwysig i’w datblygu mewn bywyd. Mae plant sy’n dysgu am gysyniadau sylfaenol fel cynilo a chyllidebu yn fwy tebygol o ddefnyddio’r sgiliau hyn pan maent yn oedolion.  Drwy ddysgu am arian yn ifanc, gall plant ddatblygu arferion cyfrifol o ran trin arian i’w cefnogi drwy gydol eu bywydau.”

Ar hyn o bryd, mae 148 o ddisgyblion wedi ymaelodi â’r cynllun cynilo, ac mae 21 oedolyn yn perthyn i’r fenter, gan gynnwys staff, llywodraethwyr, rhieni, a mamau-cu a thadau-cu, ac mae’r niferoedd yn cynyddu o hyd.

Dywedodd un fam-gu/tad-cu: “Rwyf wrth fy modd â’r cynllun cynilo - mae’n gyfleus, yn hawdd, a gallwch gynilo faint bynnag y mynnwch chi.  Mae hefyd yn hawdd codi arian ar adeg sy’n gyfleus i chi.  Rhywbeth bach wedi’i gynilo i'm wyrion.  Cynllun gwych.”

Ychwanegodd riant yn yr ysgol: “Mae fy nwy ferch yn aelodau o’r clwb cynilo.  Ymunodd fy merch hynaf ar y dechrau cyntaf. Mae hi bellach yn yr ysgol uwchradd, ond yn parhau i gynilo bob wythnos yn Ysgol Gynradd Corneli.  Mae’r ddwy yn cynilo ar gyfer eu dyfodol - mae’n grefft bwysig i'w dysgu mewn bywyd.  Mae'n eu haddysgu nad oes ots faint rydych chi'n ei gynilo, y peth pwysig yw cynilo’n rheolaidd.”

Mae plant yr ysgol hefyd yn frwd dros y cynllun, ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt syniad clir o sut fyddant yn defnyddio eu cynilion, gyda syniadau’n amrywio o brynu anrhegion Nadolig i brynu tŷ!

Roedd arolwg Estyn diweddaraf Ysgol Gynradd Corneli hefyd yn canmol y fenter, a gofynnwyd i’r ysgol ysgrifennu dogfen ‘Arfer Effeithiol’ am y cynllun cynilo, a’r effaith mae wedi'i chael ar yr ysgol, yn ogystal â’r gymuned ehangach.

Am wych! Mae’r cynllun cynilo’n cynnig cyd-destun bywyd go iawn ar gyfer datblygu llythrennedd ariannol ar draws yr ysgol gyfan. Mae’r rhyngweithio wyneb yn wyneb, sy’n rhywbeth nad yw ar gael yn aml iawn y dyddiau hyn oherwydd bancio ar-lein, yn cynnig newid braf i bawb. Rwyf hefyd wedi dysgu bod Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr yn mynychu Caffi Stori yn rheolaidd gyda disgyblion a’u teuluoedd – mae’n wych bod yr Undeb Credyd wedi’i wreiddio ym mywyd yr ysgol erbyn hyn. Yn ogystal â phwysleisio pwysigrwydd dealltwriaeth ariannol i’r plant, mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio ymysg cymunedau. Da iawn, bawb!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y