Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynigion ar gyfer Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg Porthcawl yn parhau i wneud cynnydd

Mae cynlluniau ar gyfer ysgol egin cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed Porthcawl wedi symud ymlaen i'r cam nesaf ar ôl i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymeradwyo canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus diweddar.

Gofynnwyd am farn gan amrywiaeth eang o gyfranogwyr gan gynnwys rhieni, disgyblion, staff addysgu, llywodraethwyr, aelodau Fforwm y Gymraeg mewn Addysg, darparwyr gofal plant lleol, y cyhoedd a Chyngor Tref Porthcawl.

Mae'r ysgol egin arfaethedig yn 'ddosbarth dechrau' gyda 30 lle ar gyfer plant oedran meithrin cyfwerth â llawn amser, a 30 lle ar gyfer plant oedran Dosbarth Derbyn.

Y bwriad yw y bydd yr ysgol egin yn cael ei gweithredu a’i llywodraethu gan Ysgol y Ferch o’r Sgêr, a byddai disgyblion yn pontio i’r ysgol honno ym Mlwyddyn 1 i gwblhau eu haddysg gynradd.

Bydd y trefniant hwn ar waith hyd nes y bydd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei sefydlu ym Mhorthcawl fel rhan o agwedd sydd i ddod ar y rhaglen moderneiddio ysgolion, a gymeradwywyd mewn egwyddor gan y Cabinet yn 2020.

Mae Porthcawl eisoes wedi'i nodi fel lleoliad allweddol a fyddai'n elwa o ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg. Ystyriwyd y byddai cyfleusterau o'r fath yn helpu i gefnogi'r gwaith o bontio o ofal plant i addysg ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Bydd gan y cyfleuster gofal plant arfaethedig gapasiti ar gyfer 16 lle gofal plant llawn amser (32 lle rhan amser), ynghyd â 6 lle ar gyfer darpariaeth 0 i 2 oed, gan gynnig gofal llawn o oed geni, o bosibl, hyd at bedair oed. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau, er mwyn cynnig gofal cyffredinol llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Y bwriad yw y bydd y cyfleuster hwn yn cael ei weithredu gan ddarparwr preifat.

Ar hyn o bryd amcangyfrifir y bydd y ddarpariaeth newydd yn agor ym mis Medi 2025, os bydd y cynnig yn mynd rhagddo i'w gwblhau.

Mae cymuned Gymraeg gref ym Mhorthcawl, ac mae’r cynnig ar gyfer yr ysgol egin newydd hon yn dangos ein hymrwymiad i atgyfnerthu'r iaith Gymraeg yn y fwrdeistref sirol yn gyffredinol.

Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a gyfrannodd drwy'r broses ymgynghori bwysig hon ac mae’n braf iawn bod amrywiaeth mor eang o bobl wedi rhannu eu barn.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg:

Chwilio A i Y