Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn ystyried cynlluniau i leihau allyriadau cerbydau fwy na 93 y cant

Mae cynlluniau'n cael eu hystyried i gyflwyno fflyd newydd o gerbydau casglu allyriadau isel iawn, sy'n lanach a gwyrddach, yn unol â Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae amryw o gynigion hefyd wedi'u cyflwyno i leihau allyriadau carbon o gerbydau presennol ymhellach. Credir, drwy ddefnyddio dull tanwydd amgenach, megis Olew Llysiau Hydrogenaidd (HVO), gallai'r gwasanaeth leihau allyriadau CO2 o oddeutu 975 tunnell y flwyddyn. Byddai hyn yn cynrychioli gostyngiad carbon 93.54 y cant o ôl-troed carbon presennol, sy'n deillio o weithrediadau gwastraff ac ailgylchu.

Mae'r cyngor a'i gontractwr presennol, Kier, wedi cytuno i rannu'r costau ychwanegol ar gyfer rhoi'r fenter newydd ar waith, sy'n cynrychioli newid cadarnhaol iawn o ran lleihau carbon ar gost gymharol isel.

Mae Kier, y darparwr rheolaeth gwastraff presennol, wedi cadarnhau bod archwiliadau wedi cael eu cynnal, ac mae ei fflyd gyfredol yn gallu rhedeg gan ddefnyddio'r math hwn o danwydd.

Rydym yn awyddus iawn i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno'r fflyd newydd hon o gerbydau, fydd yn defnyddio tanwydd sy'n arbed 93 y cant o garbon. Byddai hyn yn gwella ein hymateb i'r argyfwng newid hinsawdd yn gyflym ac yn sylweddol.

Rydym yn cydnabod mai'r budd amgylcheddol mwyaf, tymor canolig a hir, wrth gyflwyno'r fflyd newydd hon fydd newid i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel iawn sy'n cael eu pweru gan drydan, neu hydrogen, nad ydynt yn cynhyrchu allyriadau wrth eu defnyddio, a byddai canlyniad hynny'n aruthrol.

Pan fydd y cerbydau hyn yn cael eu pweru gan gyflenwad ynni adnewyddadwy, byddant yn cynrychioli'r dull mwyaf glân o gasglu gwastraff a gwastraff ailgylchu. Er hyn, byddwn yn ystyried amrywiaeth o opsiynau wrth fynd ymlaen, a fydd yn helpu i leihau ein hôl-troed carbon, yn ogystal â bod yn effeithiol o ran costau i'w rhoi ar waith.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:

Chwilio A i Y