Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn ymrwymo i’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

Unwaith eto, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n addo cefnogi mentrau allweddol fel y Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer cyn-filwyr.

Golygai hyn y bydd cyn-filwyr y lluoedd arfog sy’n gwneud cais am swyddi gyda’r awdurdod lleol yn cael cynnig cyfweliad gwarantedig, gan gymryd eu bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd.

Bydd unigolion yn gymwys os ydynt yn gwasanaethu ar hyn o bryd ac o fewn 12 mis o’u dyddiad rhyddhau, neu os mai’r lluoedd arfog oedd eu cyflogwr tymor hir diwethaf, ac nid oes mwy na thair blynedd wedi bod ers iddynt adael.

Nod y cynllun yw:

  • Cynorthwyo cyn-filwyr wrth oresgyn rhwystrau i ddod o hyd i gyflogaeth
  • Lleihau’r risg o gyn-filwyr yn profi problemau iechyd a llesiant oherwydd diweithdra hirdymor.
  • Gwella rhagolygon ail-gyflogaeth drwy roi cyfle i gyn-filwyr wella eu cyfnod pontio yn ôl i fywyd dydd i ddydd
  • Ategu’r cymorth ail-gyflogaeth sy’n cael ei gynnig i gyn-filwyr sy’n gadael y lluoedd arfog gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
  • Helpu sefydliadau i elwa o nodweddion a sgiliau trosglwyddadwy cyn-filwyr.

Dywedodd Bazz Key, cyn-filwr y Lluoedd Arfog, sydd bellach yn gweithio fel Swyddog Cymorth Busnes gyda’r cyngor: “Rwy’n ddiolchgar i’r cyngor am gofrestru ar y cynllun, gan ei fod wedi fy helpu i ddod o hyd i gyflogaeth yn gyflym o fewn sefydliad sy’n rhannu gwerthoedd tebyg i’r fyddin.

“Yn aml, mae’r cyfle i gyfweld yn rhwystr sylweddol i gyn-filwyr, felly mae'r cynllun hwn yn cynnig y cyfle perffaith i nifer o bobl, fel fi.”

Fel cyn-filwyr a wasanaethodd gyda Chatrawd Frenhinol Cymru, rwyf eisiau annog mwy o gyn-filwyr i gamu ymlaen a gwneud cais am swyddi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae ein hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn golygu bod cyn-bersonél milwrol sy'n gwneud cais am swyddi gyda'r cyngor yn sicr o gael cyfweliad dan weithdrefnau sydd wedi'u cynllunio i helpu cyn-filwyr lleol, personél sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, a'u teuluoedd, i addasu at fywyd sifil. Gwyddom y bydd gan nifer o gyn-filwyr sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd fel arwain, rheoli, datrys problemau a mwy. Gyda chronfa mor werthfawr o brofiad i alwa arno, dyma gyfle delfrydol i arddangos eich galluoedd, wrth ddatblygu profiad cyfweld gwerthfawr ar yr un pryd.

Mae gwefan y cyngor yn cynnig rhagor o wybodaeth am yr ystod o swyddi rydym yn eu cynnig, yn ogystal â sut gall ein Cyfamod Lluoedd Arfog gefnogi aelodau o’r gymuned filwrol mewn meysydd sy’n amrywio o gymorth â thai a’r dreth gyngor i sesiynau hamdden am ddim, dod o hyd i leoedd mewn ysgolion lleol a mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor:

I weld rhestr lawn o swyddi gwag, anogir unigolion i ymweld â thudalen swyddi’r cyngor.

Chwilio A i Y