Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn ymrwymo i gynnal Parc Rhanbarthol y Cymoedd tan 2024

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno y bydd y cyngor yn parhau i gynnal prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd (VRP) tan 2024.

Gyda chyllid Cymdeithasol Ewrop yn dod i ben ym mis Mehefin 2023, mae’r Cabinet hefyd wedi cytuno i dderbyn cyllid gwerth £265,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r prosiect hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/2024.

Mae VRP yn weledigaeth amgylcheddol ar gyfer y cymoedd - wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno drwy bartneriaeth gynyddol o awdurdodau lleol, asiantaethau llywodraethol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau elusennol, a sefydliadau gwirfoddol sy’n cydweithio’n agos â mentrau preifat a chymunedau lleol.

Y gydweledigaeth ar gyfer VRP yw rhwydwaith o fannau gwyrdd cynaliadwy, o ansawdd uchel - sy'n cynnig cyfleoedd economaidd, hamdden dysgu a sgiliau rhagorol, a fydd yn helpu i newid delwedd a chanfyddiad y cymoedd am byth.

Mae’r weledigaeth hon yn cwmpasu gwella ansawdd bywyd, iechyd a llesiant pobl leol, gan ysgogi balchder yn eu hardal wrth greu amgylchedd sy’n annog buddsoddiad mewnol a dod yn gyrchfan deniadol ar gyfer ymwelwyr.

Yn cwmpasu’r hen faes glo de Cymru, ac yn ymestyn o Sir Gaerfyrddin yn y Gorllewin i Bont-y-pŵl yn y Dwyrain, ac yn ffinio â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i'r Gogledd, mae'r VRP yn gartref i bron draean o boblogaeth Cymru.

Mae’r cyngor yn ystyried hwn yn gyfrifoldeb sylweddol. Rydym yn falch ein bod wedi cael rôl gwesteiwr ar gyfer y prosiect VRP.

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru’n cynnig y sail ar gyfer cynllunio dull tymor hwy'r prosiect VRP.

Bydd hyn yn cynnwys cytuno ar ddull a chyflwyniad wrth drosglwyddo'r VRP i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru, yn ogystal â datblygu cynllun busnes hyfyw er mwyn sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer VRP erbyn 31 Mawrth 2029.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r prosiect hwn ac i’r weledigaeth mae’n ei addo.

Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y