Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn rhannu nodyn hysbysu ar ôl galwadau gan bobl wedi gweld nadroedd

Gyda phobl yn heidio i'r arfordir dros yr haf, mae baeau a thraethau godidog Porthcawl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi profi'n boblogaidd iawn, ac nid gyda thwristiaid ac ymwelwyr yn unig.

Mae'r cyngor lleol a'i bartneriaid wedi derbyn nifer uchel o adroddiadau am nadroedd, yn enwedig yn ardal Bae Rest.

Mae'n dilyn ymchwil newydd wedi'i gadarnhau wedi'i gyhoeddi yn Clinical Toxicology sy'n datgelu bod mwy o bobl yn y DU yn adrodd anafiadau a achoswyd oherwydd brathiad gan neidr nag erioed o'r blaen. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi'u hachosi gan nadroedd sydd wedi'u cadw fel anifeiliaid anwes, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn tawelu meddwl ymwelwyr a thrigolion bod risg bychan iawn o niwed gan rywogaethau brodorol.

Mae'r DU yn gartref i nadroedd y gwaith a gwiberod, ac er mai ond y wiber sy'n wenwynig, anaml iawn mae'r brathiad yn angheuol a gellir ei drin yn hawdd iawn. Mae'r rhan fwyaf o achosion a gofnodwyd yn cynnwys cŵn yn hytrach na phobl, ac yn y mwyafrif helaeth ohonynt, caiff gwellhad llawn.

Yn aml, mae gwiberod a nadroedd y gwair i'w gweld ger ymyl llwybrau gwledig, a gellir eu hadnabod diolch i'w marciau amlwg - mae gan wiberod batrwm igam-ogam ar hyd eu cefn, ta bod gan nadroedd y gwair dorch melyn nodedig a dau driongl bach du o dan eu pen. Mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi llunio canllaw defnyddiol o'r enw 'Nadroedd Arfordir Pen-y-bont ar Ogwr' er mwyn helpu pobl i gadw llygad allan am nadroedd ac ymlusgiaid eraill o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac sy'n cynnig cyngor ynghylch beth i'w wneud os ydych chi'n dod wyneb yn wyneb ag un.

Y cyngor gorau i unrhyw un sy'n dod wyneb yn wyneb â neidr yn yr awyr agored yw gadael llonydd iddo, a cheisio a pheidio â'i darfu, Mae holl ymlusgiaid Prydain wedi'u diogelu dan gyfraith, ac mae'r wiber yn rhywogaeth arbennig sydd wedi'i hystyried i fod mewn perygl penodol."

Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick

Chwilio A i Y