Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn lansio prosiect cyflogaeth newydd

Mae Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr yn fenter newydd a fydd yn cael ei chynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel bod y rhai sy’n chwilio am waith yn cael lleoliadau gwaith gyda thâl, gyda chyflogwyr o bob rhan o’r fwrdeistref sirol yn darparu’r lleoliadau hynny. 

Mae'r fenter newydd, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn seiliedig ar yr hen Gynllun Kickstart a oedd yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu swyddi i bobl ifanc 16 i 24 oed a oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol.  Fodd bynnag, bydd Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr ar agor i bawb dros 18 oed sy’n chwilio am waith.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cefnogi cyflogwyr i recriwtio ar gyfer swyddi gwag Quickstart ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bydd tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y cyngor yn helpu'r ymgeiswyr i gael lleoliad cyflogedig. 

Yn dilyn hyn, bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda phartner cyflawni i gefnogi'r lleoliadau gwaith tymor byr â thâl i'r cyfranogwyr llwyddiannus, gyda'r nod o sicrhau swydd barhaol i'r rhai sy'n rhan o hyn ar ddiwedd cyfnod y lleoliad. Disgwylir i'r cynllun ddechrau ym mis Mai 2024 a bydd yn parhau tan fis Ionawr 2025.

Ar hyn o bryd, mae busnesau lleol yn cael eu hannog i gofrestru eu diddordeb yn y cynllun ac i nodi'r amodau canlynol: 

  • Bydd y lleoliadau yn cynnig o leiaf 25 awr yr wythnos o waith.
  • Ni ddylai rolau gymryd lle swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi'u cynllunio, ni ddylent fod yn dymhorol ac ni ddylent achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli eu gwaith neu leihau eu horiau gwaith.
  • Rhaid i'r lleoliadau fod am gyfnod a fydd dros 16 wythnos a hyd at 24 wythnos, a dod i ben erbyn 31 Ionawr 2025.
  • Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer y lleoliadau fod dros 18 oed.
  • O 1 Ebrill 2024, yr isafswm cyflog ar gyfer y sawl sy’n 21 oed a hŷn yw £11.44 ac i'r rhai rhwng 18 ac 20 oed, mae'n £8.60.
  • Bydd cyflogau a delir yn cael eu dychwelyd yn ôl-weithredol drwy broses hawlio. Felly, mae'n rhaid i gwmnïau fod â’r llif arian i dalu i unigolion, yn ogystal â'r cyfraniadau perthnasol i CThEM, cyn cael eu had-dalu gan brosiect Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr.

Cwmnïau sy'n cyflogi rhwng 10 a 250 o weithwyr fydd yn cael eu hystyried yn bennaf; fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd busnesau sy'n cyflogi llai na 10 aelod o staff ond sy'n gallu cynnig cyflogaeth barhaus hefyd yn cael eu hystyried.

Y gobaith yw y bydd cyflogwyr, gyda chefnogaeth DWP, yn cyfweld ystod o ymgeiswyr ac yn dewis y rhai sy'n gweddu orau i'w cwmni gan ddefnyddio eu prosesau arferol.  Bydd pob ymgeisydd yn cael cymorth gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr cyn y cyfweliad, gan sicrhau eu bod yn elwa o brofiad cyfweliad llwyddiannus gyda'r cyflogwr sy'n ei gynnal.

Bydd gwybodaeth a ddarperir gan ddarpar gyflogwyr yn cael ei rhannu gyda'r contractwr llwyddiannus a ddewisir i weithio mewn partneriaeth â'r cyngor mewn perthynas â'r prosiect hwn.

Am fenter wych! Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyflogaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gostwng, gyda 72.9 y cant o bobl 16 i 64 oed yn cael eu cyflogi ym mis Medi 2022, o'i gymharu â 68.8 y cant ym mis Medi 2023. Mae'r fenter hon yn cynnig strwythur cymorth i unigolion a chyflogwyr fel ei gilydd i fynd i'r afael â diweithdra ar draws y fwrdeistref sirol.

Rydym yn disgwyl y bydd llawer o ddiddordeb yn y cynllun hwn, felly byddem yn cynghori cyflogwyr i fynegi diddordeb yn y fenter cyn gynted â phosibl.

Yng ngoleuni hyn, os yw cyflogwr yn gwneud mynegiant o ddiddordeb, efallai na fydd yn gwarantu y bydd yn cael ei ddewis i gynnal lleoliad. Fodd bynnag, os cânt eu dewis, bydd cyflogwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses, a hynny’n cynnwys cefnogaeth gydag unrhyw hyfforddiant a gynigir i gyfranogwyr.

Mae gen i obeithion mawr ar gyfer y prosiect hwn ac rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn llwyddo.

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol

Chwilio A i Y