Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn diweddaru'r Fforwm Cyngor Cymunedol a Thref ar gynlluniau terfyn cyflymder 20mya newydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi diweddaru'r Fforwm Cyngor Cymunedol a Thref am y terfynau cyflymder 20mya newydd sy'n debygol o gael eu cyflwyno ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn 2021, nododd Lywodraeth Cymru bod newid y cyflymder rhagosodedig o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig yn un o'i phrif flaenoriaethau er mwyn lleihau anafiadau a marwolaethau sy'n ymwneud â thraffig, yn ogystal â gwneud cerdded a beicio'n opsiwn mwy diogel a deniadol i'r cyhoedd.

Cynigir y byddai gosod terfyn cyflymder o 20mya yn ehangach yn cynnig buddion diogelwch ffordd sylweddol ledled cymunedau lleol.

Bydd terfynau cyflymder is hefyd yn lleihau lefel sŵn traffig ac o fudd i nifer o unigolion, o safbwynt iechyd meddwl a chorfforol.

Fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, cafodd Tasglu 20mya ei greu er mwyn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn nodi'r ffyrdd hynny a fyddai'n cael eu heithrio o'r terfynau newydd.

Mae'r cyngor wedi cynnig gwybodaeth leol ac arbenigedd rheoli traffig er mwyn helpu i nodi'r ffyrdd hynny y dylid eu heithrio o'r ddeddfwriaeth, er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn glynu at y terfynau ledled y fwrdeistref, a bod y terfynau'n addas yng nghyd-destun gwahanol ardaloedd.

Bydd y terfyn cyflymder newydd yn dod i rym ym mis Medi 2023.

Mae gan gynnig Llywodraeth Cymru y potensial i gynnig sawl budd i'r gymuned leol oherwydd, yn ôl y dystiolaeth, mae pyrth 20mya yn helpu i leihau damweiniau difrifol, wrth hefyd wneud opsiynau amgen o deithio yn fwy deniadol.

Mae'r cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr amgylchedd, a byddant yn helpu'r ardal i fodloni targedau carbon sero net.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:

Chwilio A i Y