Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn dangos cefnogaeth i Wythnos Gweithredu Dementia

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o gynorthwyo Wythnos Gweithredu Dementia’r Gymdeithas Alzheimer - digwyddiad cenedlaethol arbennig i godi ymwybyddiaeth o ddementia a hyrwyddo dealltwriaeth o’r symptomau.

Ar nos Lun 15 Mai, bydd adeilad y brif swyddfa ar Heol yr Angel yn cael ei oleuo’n las i nodi dechrau’r wythnos. Bydd dau ymgynghorydd dementia o’r Gymdeithas Dementia yn cynnal stondin wybodaeth hefyd ar Heol Caroline yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 11am a 3pm, fel rhan o godi ymwybyddiaeth am yr wythnos.

Byddant yn ymweld â rhai sesiynau cymunedol hefyd, yn cynnwys ‘Amser Paned’ yng nghartref preswyl Tŷ Cwm Ogwr ym Mhant yr Awel ddydd Mercher 17 Mai a bore coffi yng Nghanolfan Dydd Cwm Calon ddydd Gwener 19 Mai.

Yn lleol, mae gan Lyfrgelloedd Awen lu o lyfrau 'Reading Well' sy'n cynnig adnoddau yn ymwneud â dementia. Mae hyn ochr yn ochr â chynnig lleoedd am ddim ar gyfer gweithgareddau a chymorth yn Llyfrgell Abercynffig ar nos Lun i bobl sy'n dioddef o Ddementia a'u gofalwyr. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â laradadic@bavo.org.uk neu ewch i https://www.awen-wales.com/libraries/

Mae Halo Leisure hefyd yn cynnig rhaglen ‘Teimlo'n Dda Am Oes’, sydd wedi'i dylunio i roi cyfleoedd i bobl sy'n dioddef o ddementia, ynghyd â'u gofalwyr, i gymdeithasu a bod yn actif. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://haloleisure.org.uk/feelgoodforlife/

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi lansio ymgyrch i wella gofal i gleifion dementia a sicrhau bod safonau yn cael eu bodloni. Am ragor o wybodaeth ynghylch digwyddiadau lleol ar wefan Cwm Taf Morgannwg.

Mae gan bawb sy’n goflau am anwyliaid sydd â dementia gyfrifoldeb cyfrannol yn ein cymunedau lleol.

Rwy’n canmol ymdrechion diflino’r Gymdeithas Alzheimer a sefydliadau cymorth lleol yn codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth hanfodol i bobol gyda dementia a’u teuluoedd.

Gyda’n gilydd gallwn greu amgylchedd cynhwysol mwy cefnogol - gyda’r nod o ddod yn fwrdeistref sirol dementia-gyfeillgar.

Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol

Chwilio A i Y