Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cymryd camau newydd i fynd i’r afael â galw digynsail am lety dros dro

Yn unol ag amcanion Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i fabwysiadu dull newydd o weithio mewn perthynas â digartrefedd.  Mae’r Cabinet wedi cymeradwyo prynu Tai Amlfeddiannaeth (HMO), yn ogystal â pharhau gyda’r darparwyr llety presennol am gyfnod o hyd at 12 mis er mwyn mynd i’r afael â sefyllfa lom digartrefedd ar draws y cyngor bwrdeistref.

Yng nghanol argyfwng digartrefedd yng Nghymru mae defnyddio gwasanaethau llety dros dro wedi cynyddu’n syfrdanol yng Nghyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.  Roedd 71 o deuluoedd mewn llety dros dro ar ddiwedd 2018/19 a 253 o deuluoedd ar ddiwedd 2022/23, sy’n cyfateb i gynnydd o 256 y cant o fewn y cyfwng amser hwn.

Ar hyn o bryd, mae goblygiadau ariannol y pwysau sy’n cael ei greu gan y gofyn am lety dros dro yn enbydus.  Rhagwelir y bydd cynnydd o 3,456 y cant mewn costau rhwng diwedd 2017/18 a diwedd 2023/24, gyda’r gwariant rhagweladwy yn £4,790,000 erbyn diwedd 2024.

Mae’r sefyllfa hon wedi ei gwneud yn fwy difrifol gyda chynnydd ehangach yn y galw am dai cymdeithasol.  Ers2019-2020, mae cyfanswm y nifer o geisiadau sydd ar Gofrestr Tai Cyffredinol Pen-y-bont wedi cynyddu’n sylweddol ar ddiwedd bob blwyddyn.  Mae hyn wedi ei briodoli’n bennaf i draweffaith argyfwng costau byw, yn ogystal â’r lleihad yn y nifer o eiddo sy’n fforddiadwy o fewn y sector rhentu preifat.

Yn ogystal ag ymgymryd â’r camau a amlinellwyd eisoes yn y strategaeth a gymeradwywyd yn ddiweddar, mae’r awdurdod lleol yn bwriadu caffael dau eiddo amlfeddiannaeth (HMO) er mwyn lleddfu’r galw anferthol am lety dros dro, yn ogystal â gwneud arbedion ariannol yn y tymor canol.

Bydd perchnogaeth eiddo amlfeddiannaeth, fydd yn cael eu prynu a’u rheoli gan yr awdurdod lleol, yn helpu i leihau costau. Bydd arian cyfalaf ar gyfer pryniadau tai amlfeddiannaeth yn cael eu darparu trwy gyfraniadau ariannol (ariannu S106 sy’n cael ei ddarparu gan ddatblygwyr) sydd eisoes wedi’i gynnwys yn y rhaglen gyfalaf.

Yn wyneb yr argyfwng tai ar hyd a lled Cymru, mae’r cyngor yn cymryd camau arloesol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r pwysau ariannol yma, trwy brynu’r tai amlfeddiannaeth.

Yn ogystal, mae camau wedi eu cymryd eisoes i ddechrau rhoi’r cynllun gweithredu, a amlygir yn y Strategaeth Cymorth Tai, ar waith. Er enghraifft, agor gwasanaeth tai newydd wedi’i gefnogi ym mis Hydref 2023, o’r enw Ty Ireland. Mae hwn yn darparu pedair uned o lety tymor hir, gyda chymorth parhaus ar y safle, ar gyfer rhai sy’n cysgu allan gyda phroblemau iechyd meddwl cymhleth a / neu broblemau camddefnyddio sylweddau.

Mae Cynllun Lesio Cymru hefyd yn gweithredu ar draws y cyngor bwrdeistref. Mae hon yn bartneriaeth gyda landlordiaid preifat gyda’r nod o ddefnyddio eiddo o’r sector ar gyfer aelwydydd sydd angen llety.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i geisio gwrthsefyll sefyllfa sy’n cael ei hailadrodd ar hyd a lled Cymru, a hynny gyda chreadigrwydd, cymhelliant yn ogystal â sensitifrwydd.

Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Chwilio A i Y