Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cymeradwyo Asesiad Effaith ar Drwyddedu ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cyhoeddi’r Asesiad Effaith Gronnol (CIA).  Mae hyn yn tynnu sylw at y ffordd mae crynhoad o safleoedd trwyddedig yn effeithio ar lefelau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol arall mewn ardaloedd penodol o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r CIA, a gafodd ei fabwysiadu am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2019 a’i adolygu o leiaf bob tair blynedd, yn llywio Datganiad Polisi Trwyddedu’r cyngor.

Mae’n arwain y penderfyniadau a wneir gan y rhai a fydd yn gwneud cais yn y dyfodol am leoliadau trwyddedig yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae’r CIA yn rhoi sylw penodol i p’un a fyddai caniatáu rhagor o drwyddedau yn parhau’n unol ag amcanion trwyddedu, megis atal trosedd ac anhrefn.

Bydd busnesau sydd eisiau gwneud cais am drwydded newydd mewn ardal CIA yn cael eu cynghori i amlinellu sut y gallant fynd i’r afael ag unrhyw broblemau gwrthgymdeithasol posib a all godi.

Mae’r ardal CIA ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys Stryd y Farchnad, Stryd Wyndham, Ffordd y Dderwen a’r rhan o Stryd Nolton rhwng cyffordd Heol Ewenni a Stryd Bracla / Heol Merthyr Mawr.

Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod amgylchiadau pob cais trwyddedu’n cael ei ystyried yn unigol, gyda’r CIA yn cyflwyno un safbwynt yn unig ar y cais.

Rydym eisiau i dref Pen-y-bont ar Ogwr ffynnu drwy annog rhagor o fusnesau i agor yng nghanol ein tref. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd reoli’r ffordd rydym yn trwyddedu lleoliadau yn ofalus er mwyn sicrhau bod ein tref yn lle deniadol i ymweld â hi.

Mae defnyddio ystadegau CIA yn ein galluogi i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn sicrhau profiad pleserus i bob rhan o’r gymuned.

Mae gennym ddiwylliant bwyty cynyddol yn datblygu yng nghanol y dref, sy’n dod ag egni newydd i’r ardal - rydym yn awyddus i weld y dref yn parhau i’r cyfeiriad hwnnw yn ogystal â datblygu economi gryfach yn ystod y dydd ar yr un pryd.

Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Chwilio A i Y