Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cyflwyno cerbydau trydan er budd y gweithlu gofal cymdeithasol

 

Yn dilyn peilot llwyddiannus diweddar o gerbydau trydan newydd (EVs) gan y gweithlu gofal cymdeithasol, mae Cyngor bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn dau gar trydan newydd.

Treialodd y gyfarwyddiaeth gwasanaethau cymdeithasol y defnydd o gerbyd trydan gyda thîm o staff gofal cymdeithasol, yn cynnwys arweinwyr tîm, a chafwyd adborth cadarnhaol gan bawb a fu’n rhan o’r treial tair wythnos.

O ganlyniad, gallai staff gael mynediad at gerbyd trydan cyn bo hir i gyflawni eu hymweliadau ledled y fwrdeistref sirol, a bydd hyn yn lleihau defnydd a thraul o’u cerbydau eu hunain.

Y gobaith yw, drwy gael mynediad at gerbyd y cyngor, bydd y fenter o fudd i’r rhai sydd â diddordeb mewn dod yn weithwyr gofal cymdeithasol ond sydd heb fynediad at gerbydau eu hunain i ymgymryd â’r rôl.

Mae’r cyngor yn disgwyl pedwar cerbyd arall i gyrraedd yn ddiweddarach eleni, gyda’r bwriad o sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth cymorth yn y cartref yn cael mynediad at y cerbydau hyn. Gan weithredu system archebu EV, ar y cyd â system drefnu galwadau electronig - y nod yw darparu’r cyfle i lawer o staff rheng flaen yrru Cerbyd Trydan yn ystod eu horiau gwaith.

Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu trefnu y bydd y cerbydau hyn ar gael i staff ein gwasanaeth cymorth yn y cartref.

Bydd hyn o fudd i’n staff gan y bydd yn arbed traul ar eu cerbydau eu hunain yn ogystal â lleihau’r costau ychwanegol sydd ynghlwm â rhedeg car, ac rydym hefyd yn gobeithio recriwtio aelodau newydd o staff, sydd efallai’n cael eu hatal rhag ymgeisio am swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol gan nad oes ganddynt fynediad rheolaidd at gerbyd eu hunain.

Mae mwy o Gerbydau Trydan yn cael eu harchebu i helpu’r tîm cymorth cartref i leihau allyriadau carbon. Wrth i’r cerbydau gael eu defnyddio mwyfwy, bydd y cyngor yn ystyried cynlluniau eraill fydd yn galluogi’r cyngor a’i weithwyr i gyflawni eu hamcanion carbon sero net erbyn 2030.

Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Mae Strategaeth Garbon Sero Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030 yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio ei holl fflyd gerbydau a milltiroedd staff ar gyfer darparu’r gwasanaeth. Er mwyn helpu i symud tuag at ddatgarboneiddio, mae’r cyngor wedi cymryd camau i roi cynnig ar ddull gwahanol mewn ardaloedd lle mae angen i staff wneud milltiroedd uchel i gyflawni gwasanaethau’r cyngor, megis gofal cymdeithasol, ac wedi neilltuo cyfalaf i alluogi’r newid. Roedd cyfleoedd cyllid grant pellach gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu’r ddau gar EV cyntaf yn rhannol ynghyd â gosod eu gwifrwyr EV.

Llun (ch i dd): Staff cymorth yn y cartref gyda Nathan Griffiths, Nathaniel Cars, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Gebbie yn BCBC ac Angela Davies, Rheolwr Gweithrediadau Cymorth yn y Cartref.

Chwilio A i Y